Pro12: Scarlets 25-15 Dreigiau

Cyhoeddwyd
Disgrifiad o’r llun,
Daeth Jake Cowley (dde) i'r cae fel eilydd i ymuno a'i dad, Regan King

Mae tad a mab wedi chwarae i'r un tîm yn y Pro12 am y tro cyntaf, wrth i'r Scarlets guro'r Dreigiau nos Wener.

Daeth yr asgellwr Jacob Cowley, 18, i'r cae i ymuno gyda'i dad, Regan King, ar ôl i'r Scarlets sicrhau pwynt bonws.

Sgoriodd y prop Phil John ddau gais a daeth dau gais hefyd gan James Davies ym Mharc y Scarlets.

Daeth ceisiau'r ymwelwyr gan Jason Tovey a Sarel Pretorius, wrth i Tovey hefyd gicio trosiad a chic gosb.

Daeth pum pwynt i'r Scarlets o droed Aled Thomas.

Mae'r Scarlets wedi symud i frig y Pro12 wedi'r fuddugoliaeth, dau bwynt uwchben Munster yn yr ail safle, ac mae'r Dreigiau yn wythfed.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,
Phil John sgoriodd gyntaf i'r Scarlets
Ffynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Taulupe Faletau yn ôl i'r Dreigiau wedi Cwpan y Byd

Scarlets: Aled Thomas; Tom Williams, Regan King, Hadleigh Parkes, Harry Robinson; Steven Shingler, Rhodri Williams; Phil John, Ken Owens (c), Peter Edwards, Jake Ball, Lewis Rawlins, Aaron Shingler, James Davies, John Barclay.

Eilyddion: Emyr Phillips, Dylan Evans, Will Taylor, George Earle, Jack Condy, Aled Davies, Dan Jones, Jacob Cowley.

Dreigiau: Jason Tovey; Ashton Hewitt, Adam Hughes, Adam Warren, Nick Scott; Dorian Jones, Charlie Davies; Boris Stankovich, Elliot Dee, Brok Harris, Matthew Screech, Rynard Landman (c), Ed Jackson, Nic Cudd, Taulupe Faletau.

Eilyddion: Rhys Buckley, Phil Price, Shaun Knight, Cory Hill, Ollie Griffiths, Sarel Pretorius, Geraint Rhys Jones, Carl Meyer.