Achos heddlu: Rhyddhau rheithgor

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun, Mae Christopher Evans, Michael Stokes a Stephen Phillips yn gwadu'r cyhuddiadau

Bydd tri o gyn heddweision, oedd ar gyhuddiad o ddwyn, yn wynebu achos newydd am fod y rheithgor wedi cael ei ryddhau.

Yn Llys y Goron Caerdydd roedd y Ditectif Sarjant Stephen Phillips, 47 oed o Abertawe, y Ditectif Gwnstabl Christopher Evans, 38 oed o Langennech ger Llanelli, a'r Ditectif Gwnstabl Michael Stokes, 35 oed o Lyn Nedd wedi gwadu'r cyhuddiadau.

Mae disgwyl i'r achos newydd ddechrau ddydd Llun.

Straeon perthnasol