'Dim cynnydd' ym mywydau llawer, yn ôl adroddiad
- Cyhoeddwyd

Does dim cynnydd wedi bod ym mywydau llawer o bobl ifanc, anabl neu dlawd, meddai comisiynydd, er bod cynnydd mewn cydraddoldeb yn y gymdeithas yng Nghymru.
Dywedodd Ann Beynon, Comisiynydd Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru, fod y "llwybr i gyfleoedd yn parhau i fod yn anoddach i basio drwyddo i rai grwpiau", gan gynnwys lleiafrifoedd ethnig.
Daw hyn yn dilyn adolygiad ar y cynnydd mewn cydraddoldeb dros y pum mlynedd ddiwethaf.
Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu'r adroddiad a dweud eu bod yn "falch bod yr adroddiad yn dangos cynnydd da mewn llawer o feysydd hanfodol yng Nghymru".
Yn ôl yr adolygiad, mae angen gwella addysg, cyflogaeth a gwasanaethau iechyd meddwl.
Yn adroddiad 'Ydy Prydain yn Decach?' dywedodd y comisiynydd fod bywyd wedi gwella i lawer o bobl ond yn waeth i eraill.
Prif heriau
Fe danlinellodd yr adroddiad y prif heriau i Gymru:
- Mae plant gydag anghenion addysg arbennig yn llawer llai tebygol o gael graddau TGAU da na phlant sydd heb anableddau;
- Mwslemiaid sydd gyda'r gyfradd gyflogaeth isaf o unrhyw grŵp;
- Mae dros un o bob tri o oedolion ifanc a lleiafrifoedd ethnig yn byw mewn tlodi o'u cymharu gyda chwarter yr holl oedolion;
- Mae rhai plant gyda phroblemau iechyd meddwl yn dal i dderbyn triniaeth ar wardiau oedolion;
- Mae un o bob pump aelod o leiafrifoedd ethnig wedi adrodd eu bod wedi dioddef anffafriaeth, gwawd neu erledigaeth;
- Mae merched yn cael eu tan-gynrychioli ymhob lefel o wleidyddiaeth yng Nghymru.
Dywedodd Ms Beynon: "Mae'r adroddiad yma yn dangos bod cynnydd wedi bod tuag at gydraddoldeb i rai pobl mewn rhai agweddau o fywyd.
"Ond mae rhai pobl yn cael eu gadael ar ôl."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn falch bod yr adroddiad yn dangos cynnydd da mewn llawer o feysydd hanfodol yng Nghymru, gan gynnwys gostyngiad mewn digartrefedd a chwymp mewn stigma am iechyd meddwl.
"Rydym yn croesawu'r adroddiad cynhwysfawr hwn ac fe fyddwn nawr yn cymryd amser i ystyried ei ganlyniadau'n fanwl."