Teleiechyd: Cwtogi amser teithio cleifion y canolbarth
- Cyhoeddwyd

Bydd cynllun technoleg newydd gwerth £250,000 yn ceisio lleihau amser teithio cleifion y Gwasanaeth Iechyd yn y canolbarth.
Bwriad prosiect Teleiechyd yw galluogi meddygon arbenigol i archwilio cyflwr cleifion heb orfod teithio.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford fod arbenigwyr orthopedig yn Y Fenni eisoes yn gallu astudio lluniau pelydr-X o Aberhonddu.
Bydd y fenter yn golygu fod mwy o bobl yn cael eu trin yn nes at adref, meddai.
Effeithiolrwydd drwy dechnoleg
"Bydd y buddsoddiad hwn yn pwyso a mesur pob practis sy'n defnyddio teleiechyd ar draws y GIG yng Nghymru ac yn edrych ar sut y gallwn ehangu'r prosiectau hyn o fewn ardal Grŵp Cydweithredol Gofal Iechyd y Canolbarth er budd mwy o gleifion," meddai Mr Drakeford.
Nododd ei fod wedi ymweld â gwasanaeth tele-ddermatoleg yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, oedd yn anfon lluniau a gwybodaeth glinigol i Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin.
"Bydd yr arian yn cynyddu'r nifer o bobl fydd yn gallu manteisio ar y dechnoleg hon, gan sicrhau eu bod yn cael gofal yn nes at adref," meddai.
Daw'r arian o gronfa o £10m i hyrwyddo effeithiolrwydd drwy dechnoleg yn y GIG yng Nghymru. Cafodd hyn i gyhoeddi ym mis Ionawr.