Tân Three Crowns Bangor: Dyn yn ddieuog
- Cyhoeddwyd

Tafarn y Three Crowns ym Mangor yn dilyn y tân yn 2014
Mae dyn wedi ei gael yn ddieuog o gynnau tân bwriadol mewn tafarn ym Mangor y llynedd.
Roedd Mark Parry, 36 oed o Lanrug, wedi ei gyhuddo o losgi bwriadol a chyhuddiadau o losgi bwriadol heb ystyried a oedd yn peryglu bywyd.
Cafodd un dyn anafiadau difrifol ac fe gafodd nifer o bobl eraill driniaeth yn dilyn y tân yn nhafarn y Three Crowns yn y ddinas ym mis Mawrth 2014.
Ar ôl ystyried eu dyfarniad yn Llys y Goron Caer ddydd Llun, daeth y rheithgor i'r casgliad fod Mr Parry yn ddieuog o'r cyhuddiadau yn ei erbyn.