BBC Cymru Fyw

Cytundeb cit newydd i dîm rygbi Gymru

Published
image copyrightGetty Images
Mae Undeb Rygbi Cymru yn barod i arwyddo cytundeb naw mlynedd, gwerth £33m gyda chwmni Under Armour, i ddarparu cit y garfan genedlaethol.
Fe gymrodd y cwmni Americanaidd le Reebok yn 2008.
Roedd y cytundeb gwreiddiol gydag Under Armour werth oddeutu £2.5m y flwyddyn, ond bydd y fargen newydd yn gweld cynnydd yn y ffi flynyddol, i £3.7m.
Dyma'r cytundeb mawr cyntaf i brif weithredwr newydd URC, Martyn Phillips fod yn rhan ohono.
Fe gamodd Roger Lewis o'r neilltu wedi i daith Cymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd ddod i ben, wedi naw mlynedd wrth y llyw.
Fe gyhoeddwyd ym mis Medi mai Stadiwm y Principality fydd enw Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd o fis Ionawr 2016 ymlaen, yn rhan o gytundeb noddi 10 mlynedd.