Dim streic wedi i yrwyr bysiau dderbyn cynnig tâl

Bws

Fydd dim streic gan yrwyr bysiau yng Nghaerdydd wedi i gynnig tâl gwell gael ei dderbyn.

Dywedodd cwmni Bws Caerdydd bod 90% o'r 540 o aelodau undeb Unite wedi cefnogi derbyn y cynnig mewn pleidlais.

Mae gyrwyr wedi cynnal nifer o streiciau yn yr wythnosau diwethaf, wrth iddyn nhw dargedu dyddiau ble roedd y ddinas yn cynnal gemau Cwpan Rygbi'r Byd.

Roedd y streiciau'n amrywio o 24 i 48 awr, ond fe gafodd streic oedd wedi'i chynllunio ar gyfer dydd Sul diwethaf ei gohirio oherwydd y bleidlais.