Marwolaeth Caergybi: Ddim yn amheus

stryd y farchnad
Image caption Cafwyd hyd i'r dyn ar Stryd y Farchnad yn y dref

Dydi marwolaeth dyn gafodd ei ganfod wedi marw yng Nghaergybi ddydd Mercher ddim yn cael ei drin fel achos amheus erbyn hyn.

Daw hyn wedi i archwiliad post mortem ddangos fod y dyn 66 oed wedi marw o achosion naturiol.

Mae dyn 41 oed - gafodd ei arestio wedi'r farwolaeth - wedi ei ryddhau.

Mae Heddlu'r Gogledd wedi diolch am gymorth ac amynedd y gymuned yn ystod yr ymchwiliad, ac mae'r crwner wedi cael gwybod am ganlyniadau'r archwiliad.