Dau gynghorydd Powys yn gadael swyddi
- Cyhoeddwyd

Mae dau gynghorydd o Gyngor Powys wedi gadael eu swyddi fel cadeiryddion dau bwyllgor ar ôl cael eu herlyn gan swyddogion lles anifeiliaid y cyngor.
Bu'n rhaid i Aled Davies, arweinydd grŵp Ceidwadol y cyngor, adael ei swydd fel cadeirydd pwyllgor archwilio'r awdurdod.
Yr wythnos diwethaf cyfaddefodd y Cynghorydd Davies i chwe chyhuddiad o beidio â chlirio cyrff defaid o'i fferm ger Llansilin.
Cafodd cynnig gerbron y cyngor i'w dynnu o'r pwyllgor archwilio ei basio.
Roedd wedi cael dirwy o £800 a'i orchymyn i dalu £1740 o gostau.
Cofnodion
Mae'r Cynghorydd Gwynfor Thomas, aelod Ceidwadol ward Llansanffraid, wedi rhoi'r gorau i fod yn gadeirydd y pwyllgor craffu. Roedd wedi cyfaddef iddo fethu â chadw cofnod o symudiadau, marwolaethau a genedigaethau gwartheg.
Bydd rhasid iddo gwblhau 40 awr o waith di-dâl ac fe gafodd orchymyn cymunedol am 12 mis.
Roedd Mr Thomas yn arfer bod yn gadeirydd ar y pwyllgor oedd yn gyfrifol am graffu ar waith yr adran iechyd amgylcheddol a safonau masnach - yr adran oedd yn gyfrifol am ei erlyn.