Caerdydd 1- 0 Middlesborough
- Cyhoeddwyd

Roedd gôl hwyr yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i Gaerdydd yn erbyn Middlesborough yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fawrth - ond nid Caerdydd lwyddodd i sgorio.
Amddiffynnwr Middlesbrough George Friend oedd cyfaill Caerdydd ar y noson, wedi iddo rwydo'r bêl i'w rwyd ei hun yn y munudau olaf.
Methodd Boro sgorio am y drydedd gêm yn olynol, er i Albert Adomah a David Leadbitter ddod yn agos.
Cafodd Caerdydd eu cyfle drwy Craig Noone a Peter Whittingham, ond fe chwaraeodd lwc ei ran yn y fuddugoliaeth yn y pen draw.