Dau frawd yn euog o ladd menyw 34 oed o Gaerdydd
- Cyhoeddwyd

Roedd Sameena Imam yn dod o Gaerdydd
Mae dau frawd ar gyhuddiad o lofruddio menyw o Gaerdydd yn euog yn Llys y Goron Birmingham.
Roedd Roger Cooper, 41 oed, a David Cooper, 39 oed, wedi gwadu'r cyhuddiad.
Cafwyd hyd i gorff Sameena Imam, 34 oed, wedi ei gladdu mewn gardd-ar-osod yng Nghaerlŷr ym mis Ionawr wedi i glorofform ei lladd.
Roedd Ms Imam wedi bod mewn perthynas â Roger Cooper ers dwy flynedd, ac wedi ei herio i adael ei bartner hirdymor.
Fe glywodd yr achos fod Roger Cooper wedi treulio tua mis yn cynllunio i ladd Ms Imam - un o dair o gariadon - er mwyn ei rhwystro rhag datgelu'r berthynas.
Fe brynodd y brodyr fetelau gwenwynig, dod o hyd i fedd a chyfathrebu mewn negeseuon testun, gan ddefnyddio cod oedd wedi ei selio ar Star Wars cyn lladd Ms Imam.