De Affrica 23-19 Cymru

Cymru v De Affrica

De Affrica 23-19 Cymru

Mae Cymru allan o Gwpan Rygbi'r Byd wedi colled yn erbyn De Affrica yn Twickenham ddydd Sadwrn.

Mewn gêm agos yn rownd yr wyth olaf, cais hwyr gan Fourie du Preez wnaeth sicrhau'r fuddugoliaeth i'r Springboks.

Roedd Gareth Davies wedi rhoi Cymru ar y blaen ar ôl chwarae gwych gan Dan Biggar, ond fe wnaeth De Affrica fanteisio wrth i Gymru ildio nifer o giciau cosb.

Bydd De Affrica yn wynebu'r tîm buddugol yn yr ail gêm ddydd Sadwrn rhwng Seland Newydd a Ffrainc.

Darllenwch yn ôl drwy holl gyffro'r gêm yma.

Image copyright Getty Images
Image caption Daeth cais Gareth Davies wedi chwarae cic wych gan Dan Biggar

Roedd hi'n gêm gorfforol ac agored o'r cychwyn, a De Affrica aeth ar y blaen yn gynnar gan fanteisio ar giciau cosb yn erbyn Cymru.

Gyda'r sgôr yn 9-3 daeth cais gyntaf y gêm ar ôl i dîm Warren Gatland ddangos mwy o chwarae creadigol na yn eu gêm yn erbyn Awstralia wythnos yn ôl.

Ciciodd Biggar y tu ôl i'r llinell amddiffynnol yn 22 y Springboks, cyn dal y bêl ei hun, a llwyddo i basio i Gareth Davies i groesi'r llinell.

Daeth pedwaredd gic gosb Pollard yn fuan wedyn ond aeth Cymru i mewn ar y blaen wrth i Biggar gicio gôl adlam cyn yr egwyl.

Image copyright Getty Images
Image caption Fe wnaeth George North achosi problemau i amddiffyn De Affrica drwy'r prynhawn

Rhoddodd hynny hyder i Gymru ar ddechrau'r ail hanner, ac fe sgoriodd Biggar gic arall wrth i Pollard fethu dwy i roi Cymru ymhellach ar y blaen.

Ond daeth De Affrica a Pollard yn ôl a rhoi pwysau enfawr ar amddiffyn Cymru.

Llwyddodd rheng ôl Cymru i gadw'r Springboks yn ôl am gyfnod. Fe wnaeth Warburton gipio'r bêl mewn sgarmes oedd fodfeddi o'r llinell gais, cyn i Faletau atal cais sicr gan ddal pêl isel pan oedd JP Pietersen yn aros i neidio at y llinell.

Ond boddi wrth y lan wnaeth Cymru. Llwyddodd De Affrica i droi sgrym yn 22 Cymru, cafodd Lloyd Williams ac Alex Cuthbert eu denu i mewn i'r dacl, gan adael Fourie du Preez yn rhydd i sgorio a sicrhau'r fuddugoliaeth i'r 'boks.

Image copyright Getty Images
Image caption Daeth 18 o bwyntiau De Affrica o droed Handre Pollard
Image copyright Getty Images
Image caption Ond Schalk Burger gafodd wobr seren y gêm

Ar ôl y gêm, dywedodd Warren Gatland: "Ar y dechrau fe roddodd yr hogiau bopeth. Doedden nhw ddim digon da i ddal ymlaen yn y munudau olaf.

"Dydw i ddim am wneud esgusodion. Ar ddiwedd y dydd De Affrica enillodd y gêm. Doedden ni ddim digon da i ennill."

Cymru: Gareth Anscombe; Alex Cuthbert, Tyler Morgan, Jamie Roberts, George North; Dan Biggar, Gareth Davies; Gethin Jenkins, Scott Baldwin, Samson Lee, Luke Charteris, Alun Wyn Jones, Dan Lydiate, Sam Warburton (capten), Taulupe Faletau.

Eilyddion: Ken Owens, Paul James, Tomas Francis, Bradley Davies, Justin Tipuric, Lloyd Williams, Rhys Priestland, James Hook.

De Affrica: Willie le Roux; JP Pietersen, Jesse Kriel, Damien de Allende, Bryan Habana; Handre Pollard, Fourie du Preez (capten); Tendai Mtawarira, Bismarck du Plessis, Frans Malherbe, Lodewyk de Jager, Eben Etzebeth, Schalk Burger, Duane Vermeulen, Francois Louw.

Eilyddion: Adriaan Strauss, Trevor Nyakane, Jannie du Plessis, Pieter-Steph du Toit, Willem Alberts, Ruan Pienaar, Pat Lambie, Jan Serfontein.

Straeon perthnasol