Woking 0 - 1 Wrecsam

Connor Jennings Image copyright Getty Images
Image caption Connor Jennings sgoriodd unig gôl y gêm

Dyma fuddugoliaeth gyntaf Wrecsam mewn saith gêm ac mi ddylen nhw fod wedi ennill yn fwy cyfforddus.

Connor Jennings gafodd yr unig gôl - ei chweched y tymor hwn - ar ôl cyd-chwarae'n hyfryd gyda Dominic Vose ar ôl 27 munud, ond gwastrafodd Jennings a Kayden Jackson gyfleoedd da i sgorio yn yr 2il hanner.

Yn ystod yr 2il gyfnod, cafodd yr ymwelwyr hwb i'w gobeithion o ennill pan gafodd amddiffynnwr canol Woking Brian Saah ei anfon o'r maes am ei ail drosedd ar Jackson ar ôl 65 munud, ac yn y deng munud olaf roedd y tîm cartre'n teimlo eu bod nhw wedi cael cam pan wrthododd y dyfarnwr roi cic o'r smotyn iddyn nhw am drosedd ar John Goddard.

Ond go brin y gall Woking gwyno am y canlyniad a llwyddodd Wrecsam i beidio ag ildio gôl am y tro cyntaf mewn chwe gêm.

Ar ôl y chwiban olaf dywedodd y rheolwr Gary Mills ei bod hi'n fuddugoliaeth 'anferth' o safbwynt gobeithion ei dîm o gyrraedd y gemau ail-gyfle.

Mae ei dîm wedi codi i'r nawfed safle yn y tabl.