Dyn yn cyfaddef bygwth lladd heddlu yng Nghymru

Craig Hughes outside court
Image caption Cafodd Craig Hughes ei gadw yn y ddalfa

Mae dyn o Sir y Fflint wedi cyfaddef dweud wrth linell gymorth yn yr Unol Daleithiau ei fod yn bwriadu lladd ei hun a chymaint o blismyn â phosib.

Cafodd Craig Hughes, 33 oed o'r Fflint, ei arestio gan Heddlu Gogledd Cymru ym mis Awst ar ôl sgwrsio gyda chanolfan Hope Line Crisis Centre yn Tennessee.

Fe wnaeth Hughes bledio'n euog i ddau gyhuddiad yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Gwener.

Mae yn y ddalfa a bydd yn cael ei ddedfrydu yr wythnos nesaf.

Ymosod

Yn ôl yr erlyniad, roedd Hughes wedi dweud ei fod yn bwriadu rhoi gwybod i'r heddlu am drosedd nad oedd wedi digwydd ac yna ymosod arnyn nhw.

Roedd wedi gwneud bygythiadau ddwy waith yn hwyr gyda'r nos pan oedd yn feddw.

Dywedodd yr amddiffyniad nad oedd Hughes wedi bwriadu lladd ei hun ac na fyddai wedi cwblhau unrhyw fygythiad i ladd plismyn.

Clywodd y llys ei fod yn euog o fod â gwn yn ei feddiant yn 2009.

Mae Canolfan Hope Line Crisis Centre yn cynnig cefnogaeth a chwnsela i bobl sydd mewn trafferth.