'Mwy o ffoaduriaid mewn sefyllfa fregus'

Canolfan Oasis

Mae cynlluniau Llywodraeth Prydain i dorri budd-daliadau ceiswyr lloches yn golygu bod yna beryg y bydd mwy mewn sefyllfa fregus, yn ôl rhai elusennau yng Nghymru.

Dyna'r rhybudd gan Gyngor Ffoaduriaid Cymru a'r Groes Goch sy'n cefnogi cannoedd o geiswyr lloches sydd ddim yn cael cefnogaeth ariannol yng Nghymru.

Ar hyn o bryd os ydy'r Swyddfa Gartref yn gwrthod cais ceiswyr lloches a'u bod nhw'n fodlon mynd adref, maen nhw'n gallu hawlio £35 yr wythnos a llety tan eu bod yn gadael Prydain.

Ond i'r rhai sydd yn gwrthod dychwelyd, dydyn nhw ddim fel arfer yn medru cael cefnogaeth swyddogol na'r hawl i weithio.

Mae newidiadau posibl i'r mesur mewnfudo yn debygol o leihau'r cyfnod y byddan nhw'n rhoi budd-daliadau i geiswyr lloches, hyd yn oed i'r rhai sy'n cytuno i fynd nôl i'w mamwlad.

Mae'r Swyddfa Gartref wedi dweud nad ydyn nhw'n medru gwneud unrhyw sylw tra bo'r ymgynghoriad yn parhau.

Image caption Chloe Marong

'Amhosib mynd yn ôl'

Dywedodd Chloe Marong, sydd yn gweithio gyda cheiswyr lloches yng Nghanolfan y Drindod yng Nghaerdydd:

"Unwaith mae rhywun wedi cael gwybod bod eu cais wedi methu, maen nhw'n cael eu galw'n geiswyr lloches sydd wedi cael eu gwrthod.

"Ar y pwynt yna mi fydde'r Swyddfa Gartref yn dweud bod yn rhaid iddyn nhw fynd adref. Yn anffodus, dyw hi ddim mor hawdd â hynny, ac yn aml, allith pobl ddim dychwelyd adref hyd yn oed os ydyn nhw yn awyddus i wneud hynny.

"Er enghraifft, rydyn ni'n gweld pobl o Gaza - mae'n amhosib mynd nôl fanna dyddiau yma. Ac mae yna nifer sydd ddim yn cael eu cydnabod mewn unrhyw wlad a ddim yn medru cael dogfennau teithio, pasport, a jest mewn 'limbo', yn methu gweithio a ddim â'r hawl i aros."

Image caption Cinio i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng nghanolfan Oasis yng Nghaerdydd

Er nad ydy ceiswyr lloches yn torri'r gyfraith trwy wrthod mynd adref, mae yna risg y byddan nhw yn cael eu hanfon yn ôl i'w gwlad.

Mae nifer yn penderfynu peidio â gwneud hyn ac yn cysgu ar soffa ffrindiau tra bod lleiafrif yn gorfod cysgu ar y stryd.

Dyw'r Swyddfa Gartref ddim yn cadw ffigyrau o geiswyr lloches sydd a'u ceisiadau wedi eu gwrthod yng Nghymru.

Ond mae'r Groes Goch yn dweud eu bod nhw wedi helpu bron i 1,000 yn ne ddwyrain Cymru y llynedd, ac maen nhw'n disgwyl i'r ffigwr fod yn uwch eleni.

Yn ôl Chloe Marong, mae newidiadau posibl i'r mesur mewnfudo yn golygu bod yna berygl y bydd mwy o geiswyr lloches mewn sefyllfa fregus.

'Rhaid blaenoriaethu'

Mae'r Aelod Seneddol Ceidwadol David Davies yn dweud bod yn rhaid blaenoriaethu pwy allith aros.

"Dwi yn siŵr bod chi'n gallu ffeindio unigolion sy' wedi dioddef os basen ni yn torri'r maint o fudd-dal maen nhw'n gallu cael pe base'r achos yn cael ei droi i lawr.

"Ond y pwynt yw bod miliynau o bobl led led y byd sydd eisiau dod i Brydain.

"Da ni ddim yn gallu helpu pawb, ac mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar y rhai sydd gyda rhesymau gwir i ddod yma."

Image caption David Davies

Mewn datganiad, dywedodd y Swyddfa Gartref ei bod wedi derbyn dros 850 o ymatebion i'w ymgynghoriad ac y byddan nhw yn ymateb mewn amser.

Maen nhw hefyd yn dweud ei bod yn annog pobl i adael Prydain yn wirfoddol.


Brodor o Kuwait ydy Adel. Mae wedi bod yn byw ym Mhrydain ers pum mlynedd ar ôl cael ei smyglo i Dover mewn lori fwyd.

Mae'n dweud nad ydy o'n gallu mynd adref am ei fod yn perthyn i'r grŵp ethnig Bidun sydd ddim yn cael ei gydnabod gan lywodraeth Kuwait.

Dydy ei gais i aros yma ddim wedi cael ei dderbyn.

"Mae bywyd yn hynod anodd pan does gen ti ddim tŷ, "meddai.

"Does gen ti ddim byd. Ti methu byw ar y stryd. Sgen ti ddim teulu. Nid Prydain ydy adref. Mae'n anodd."

"Mi wnes i drio llenwi ffurflen gais i fynd nôl i Kuwait yn wirfoddol ond gwrthod wnaeth y Swyddfa Gartref.

"Mi wrthododd llysgenhadaeth Kuwait roi dogfen i deithio un ffordd i fi.

"Mi wnes i drio gadael yr un ffordd trwy Dover ond ges i fy nal gan yr awdurdodau."

Mae Adel wedi bod yn cysgu yn nhŷ ffrindiau ond mae hefyd wedi gorfod cysgu ar y stryd.

Mae Adel sy'n 25 yn bwriadu gofyn i'r Swyddfa Gartref edrych eto ar ei gais.

"Does gen i ddim gobeithion. Ar hyn o bryd does gen i ddim tŷ.

"Does gen i ddim byd. Dw i ddim yn meddwl bod gen i ddyfodol.

"Mi ddaeth fy holl gynlluniau i ben pan wnaeth y Swyddfa Gartref stopio delio a fy nghais."