Et Tu, Huw?

Mae dweud bod wythnos yn amser hir mewn gwleidyddiaeth yn dipyn o ystrydeb erbyn hyn ond mae geiriau Harold Wilson yn cael ei ddyfynnu mor aml am reswm. Maen nhw'n digwydd bod yn wir.

Wythnos yn ôl ysgrifennais erthygl ynghylch pwy allai olynu Carwyn Jones fel arweinydd Llafur Cymru gan enwi Vaughan Gething a Jeremy Miles ymhlith eraill fel posibiliadau. Bellach mae'n rhaid ychwanegu enw Huw Irranca Davies at y rhestr.

Mae penderfyniad aelod seneddol Ogwr i ymgeisio am set yn y Cynulliad yn foment o bwys yn hanes ein gwleidyddiaeth am fwy nac un rheswm.

Yn gyntaf mae'n brawf o'r hyn yr oeddwn yn ei awgrymu wythnos yn ôl sef bod mwy a mwy o'n gwleidyddion yn troi eu llygaid o San Steffan i gyfeiriad y Bae. Nid fi sy'n dweud hynny y tro yma. Dyma eiriau Huw ei hun.

"We should stop being humble about the Welsh assembly and the Welsh government and start saying that this is the place that really matters.I hope it's a sign that the Senedd is gaining in importance and credibility."

Dylai'r newid agwedd yma olygu y bydd y cynulliad nesaf yn un llawer mwy aeddfed a threiddgar na'r un presennol ond mae penderfyniad Huw yn bwysig am reswm arall hefyd.

Rwy'n ail adrodd hen, hen bregeth yn fan hyn. Fe fydd y rhan fwyaf ohonoch chi'n gyfarwydd â'r ddamcaniaeth taw'r ffordd i ddeall y broses o ddatganoli yng Nghymru yw trwy ei gweld yng nghyd-destun tensiynau mewnol y blaid Lafur yng Nghymru.

Hynny yw, mae datblygiad cyfansoddiadol Cymru yn cael ei lliwio gan y dadleuon rhwng esgyll cenedlaethol ac unoliaethol y blaid honno. Bevan v Griffiths, Cledwyn v George, Kinnock v Morris ac yn blaen, ac yn y blaen, hyd heddiw.

Hyd heddiw. Ers datganoli mae'r rheiny sydd a'u gwreiddiau yn nhraddodiad cenedlaethol y blaid wedi magu grym yn y Bae tra bod y rheiny o awch unoliaethol wedi crynhoi yn San Steffan. Yn ystod teyrnasiad Blair a Brown tasg yr Ysgrifennydd Gwladol oedd cymodi rhwng y ddwy garfan.

Mae penderfyniad Huw yn arwydd, yn fy marn i, bod dylanwad yr aelodau seneddol ac felly'r traddodiad unoliaethol yn brysur ddiflannu a bod yr asgell genedlaethol bellach yn rheoli'r broses gyfansoddiadol o safbwynt y blaid Lafur.

Os am brawf o hynny does ond eisiau ystyried pa mor amherthnasol ac anweledig yw aelodau seneddol Llafur Cymru yn y ffrae bresennol ynghylch Mesur Cymru.

O ba fodd y cwymp y cedyrn - ond mae 'na eironi bach yn hyn oll. Os ydy penderfyniad Huw yn arwydd o fuddugoliaeth derfynol y datganolwyr - tybed beth fyddai gan ei wncwl i ddweud am hynny? Ifor Davies Aelod Seneddol Gŵyr oedd hwnnw ac roedd un o'r 'giang o chwech' Aelod Seneddol Llafur wnaeth wrthwynebu datganoli yn ôl yn 1979.

Dyma oedd gan Ifor i ddweud bryd hynny.

"The unity of Wales with the United Kingdom has proved a strength, not a weakness, in tackling our problems. Therefore, our main concern must be to prevent any action which could undermine the relationship. That is why some of us are very worried that the proposals before us will provide a springboard for separation or a step towards the slippery slope leading towards the break-up of the United Kingdom."

Et tu, Huw?