Bale i ddechrau yn erbyn Bosnia

bale Image copyright Getty Images

Mae rheolwr tîm pêl droed Cymru Chris Coleman wedi cadarnhau y bydd Gareth Bale yn dechrau'r gêm yn erbyn Bosnia Herzegovina yn Zenica yn rowndiau rhagbrofol Ewro 2016 nos Sadwrn.

Dim ond 25 munud mae seren Real Madrid wedi ei chwarae'n ystod y tair wythnos a hanner ddiwethaf ar ôl iddo ddioddef anaf i'w goes.

Ond fe ddaeth ymlaen fel eilydd yn ystod ail hanner y gêm gyfartal yn erbyn Atletico Madrid yn La Liga ddydd Sul diwethaf, ac mae o wedi ymarfer yn llawn efo carfan Cymru wythnos yma.

"Heb os ac oni bai mi fydd Bale yn y tîm ar gyfer y gêm" meddai Coleman mewn cynhadledd i'r wasg yn Bosnia ddydd Gwener.

"Mae'n anhebygol y bydd o ar gael i chwarae am 90 munud yn y ddwy gêm (Bosnia ac Andorra). Mae dwy gêm mewn pedwar diwrnod yn gofyn lot o chwaraewr sydd ddim wedi chwarae ryw lawer yn ystod yr wythnosau diwethaf.

"Ond mae o'n sicr yn barod i ddechrau nos fory", ychwanegodd.

Dim ond pwynt mae Cymru ei angen o'r gemau'n erbyn Bosnia Herzegovina ac Andorra i selio eu lle'n y rowndiau terfynol yn Ffrainc haf nesaf.

Bydd modd dilyn diweddariadau o'r gêm ar lif byw arbennig ar wefan BBC Cymru Fyw nos Sadwrn, gyda'r llif byw yn dechrau am 19:15.

Image caption Chris Coleman ac Ashley Williams yn siarad gyda'r wasg