BBC Bangor yn 80: Y dyddiau cynnar

O ddarlledu 'cudd' yn y Gymraeg yn ystod yr Ail Ryfel Byd i dyfu eu llysiau eu hunain yng ngardd y BBC, mae rhai o gyn staff BBC Bangor a'u teuluoedd wedi bod yn rhannu eu hatgofion i nodi 80 mlwyddiant y ganolfan yn y gogledd.

Wedi agor ym Mryn Meirion yn 1935 fe wnaeth y ganolfan ddarlledu ym Mangor feithrin perfformwyr a darlledwyr blaenllaw fel Charles Williams a Meredydd Evans a mwy dan arweiniad y pennaeth cyntaf, Sam Jones.

Yn ystod y rhyfel symudodd adran adloniant y BBC yno i osgoi'r bomiau a chafodd adeiladau ar draws y ddinas eu defnyddio fel swyddfeydd a stiwdios i'r cannoedd o staff newydd a'r oedd rhaglenni poblogaidd fel ITMA yn cael eu darlledu oddi yno.

Fe fuon ni'n clywed atgofion rhai o'r bobl sy'n cofio'r dyddiau cynnar y tu ôl i'r llen:

Betty Parker yn cofio ei mam, Myfanwy Howell

Image caption Betty Parker ym Mryn Meirion gyda phenddelw o Sam Jones, a'i mam Myfanwy Howell oedd yn sgriptio, cynhyrchu a chyflwyno rhaglenni

Mae Betty Parker o Lanfairpwll yn cofio sut wnaeth ei mam dorri'r rheolau yn ystod yr Ail Ryfel Byd a llwyddo i ddarlledu gair neu ddau o Gymraeg ar donfeddi radio'r BBC i filwyr o Gymru oedd ymhell oddi cartref.

Roedd Myfanwy Howell yn gynorthwyydd rhaglenni alluogi ac uchel ei pharch oedd yn sgriptio, cynhyrchu a chyflwyno rhaglenni yng nghanolfan y BBC ym Mangor.

"Roedden nhw'n gwneud rhaglenni ar gyfer y fyddin ond doedden nhw ddim yn cael siarad Cymraeg oherwydd nad oedd neb yn deall Cymraeg yn y gwasanaeth monitro yn Reading," meddai Betty.

"Roedd pob rhaglen yn cael ei monitro rhag ofn fod pobl yn anfon negeseuon cod i'r Almaenwyr... Roedd ganddyn nhw bobl oedd yn siarad Ffrangeg, Almaeneg a phob math o ieithoedd eraill ond toedd 'na neb yno yn dallt Cymraeg.

"Roedd hi'n gwneud rhai o'r rhaglenni yma i gonfois y fyddin yn yr Arctig ac fe fyddai hi bob amser yn eu gorffen gyda: 'Wel, nos da hogia, lle bynnag y bo'ch.'

"A phan ddaeth y trŵps nôl adre fe fydden nhw'n ffonio ac anfon negesuon i ddweud fod yr ychydig eiriau hynny o Gymraeg wedi golygu cymaint iddyn nhw."

Aeth Myfanwy Howells ymlaen i fod yn gyflwynydd teledu a hi oedd cadeirydd cyntaf Sefydliad y Merched yng Nghymru.

Henry Lewis, y 'garddwr diwylliedig'

Image caption Henry Lewis gyda chrysanthemums hoff Sam Jones ac ar ymweliad â gardd BBC Bryn Meirion yn 2015

Fel garddwr i'r BBC ym Mangor am 35 mlynedd fe welodd Henry Lewis newidiadau mawr - gan gynnwys diflaniad ei swydd yn gyfan gwbl wrth i'r galw am drin yr ardd a thyfu llysiau ddiflannu.

Er iddo weithio dan sawl pennaeth - WR Owen, John Roberts Williams ac R Alun Evans - y chwedlonol Sam Jones roddodd y swydd iddo gyntaf ynghanol y 1940au.

"Roedd rhywbeth am Sam oedd yn gwneud ichi deimlo eich bod eisiau gwneud eich gorau iddo ac fe allai ddod â'r gorau allan o unrhyw un hefyd, ac roedd yn gwerthfawrogi hynny hefyd," cofia Henry.

"Roedd yn feistr gwych a dweud y gwir - fel nhw i gyd," meddai. Ond os oedd ganddo wendid - blodau chrysanthemums oedd rheiny.

"Roedd Sam Jones yn mynnu fod chrysanthemums yn cael eu tyfu yn yr ardd - dyna oedd ei hoff flodyn. Roedden nhw'n bwysig iawn iddo ac fe fydden nhw'n cael eu hanfon i Gaerdydd, yn enwedig os oedd Sam Jones yn ymweld â Chaerdydd, neu os oedd ryw artist arbennig yn ymweld," meddai Mr Lewis.

Roedd hefyd yn tyfu tomatos, letus, tatws a llysiau eraill yn y tŷ gwydr ar gyfer ffreutur y staff.

"Roedd yn bwysig iawn, roedd pawb yn gwerthfawrogi'r llysiau o'r ardd yn y cantîn, yn enwedig y letus. Roedd letus yn cael ei ddefnyddio lawer iawn. Ro'n i hefyd yn tyfu ffa, pys, tomatos coch a melyn, ciwcymbyrs ac yn y blaen."

Dros y blynyddoedd lleihaodd yr angen am waith garddio wrth i'r ardd wneud lle i adeilad newydd a maes parcio ac erbyn diwedd ei yrfa roedd Mr Lewis yn helpu yn yr adeilad fel commissionaire, cynorthwyydd a help llaw i'r peirianwyr.

Hugh Edwards - 'Owi Bach'

Image caption Hugh Edwards a chopi o'i gytundeb i chwarae Owi Bach

Hugh Edwards oedd un o'r rhai cyntaf i berfformio yn nramâu radio'r BBC ym Mangor pan gafodd ei ddewis allan o 200 o blant lleol i chwarae rhan Owi Bach yn 1935, pan oedd yn 10 oed.

"Aethon ni i Bryn Meirion i neud audition efo Sam Jones ac mi glywish i yn diwadd mod i 'di cael y job," meddai Hugh, sydd erbyn hyn yn ei 80au ac yn cofio Charles Williams yn dod i Fangor am ei glyweliad cyntaf.

"Dwi'n cofio deud wrth bobl fel Charles be' i 'neud - o'n i'n hen law arni erbyn hynny!"

Yn ogystal â rhan Owi Bach ddireidus roedd Hugh yn actio nifer o rannau eraill yn rhaglenni 'Awr y Plant': mae'n cofio rhaglenni hanes am Owain Glyndŵr, cyfres o'r enw 'Campau C'nafon Cefn Du' a phennod o 'Galw Gari Tryfan' - a'r rhan fwyaf o'r rhaglenni hynny'n cael eu darlledu'n fyw.

Roedd yn dal i weithio ym Mangor pan ddaeth adran adloniant y BBC a rhaglenni fel 'ITMA' i'r ddinas dros gyfnod y rhyfel ac mae'n cofio un o yrwyr y criw o Lundain yn cael ei ladd gan fom ym Maesgeirchen tra roedd y rhaglen ar yr awyr.

Fe aeth Hugh i'r Llynges yn 18 oed ac ni aeth yn ôl at ddarlledu na byd y ddrama fyth wedyn.

Llyfr llofnodion Ifor Williams

Image caption Laura Jones, trydydd o'r dde yn gwrando'n astud ar gyfarwyddiadau Sam Jones; Ifor Williams, nai Laura, gyda'i lyfr llofnodion llawn o sêr y cyfnod

"Fe ges i fy ngeni a fy magu yn Warrington ac mae gen i atgofion melys o Radio Cymru yn hogyn - ro'n i'n dod adra o'r ysgol gynradd ac yn chwara efo'r hogiau yn y stryd ond pan oedd hi'n dod yn bump o'r gloch ro'n i'n deud: 'Sorry lads, I've got to go'. 'Why?'. 'Awr y plant'!" meddai Ifor Williams.

"Wedyn ro'n i'n rhedeg adre i wrando ar 'Awr y Plant' ar b'nawn Mawrth a ph'nawn Iau a gwrando ar 'SOS Galw Gari Tryfan'. Pumed symffoni Tchaikovsky oedd yr agorawd i'r rhaglen, ond agorawd 'SOS Galw Gari Tryfan' ydi o i mi!"

Roedd gan Ifor reswm arall i gymryd diddordeb yn rhaglenni'r BBC o Fangor gan fod ei fodryb, Laura Jones, yn ysgrifenyddes i'r pennaeth Sam Jones ac yn gweithio'n galed y tu ôl i'r llen i greu trefn allan o anrhefn pan fyddai hi'n funud olaf ar y paratoadau ar gyfer y 'Noson Lawen'.

Mae Ifor yn dal i drysori ei lyfr llofnodion sy'n cynnwys enwau fel Charles Williams, Idris Reynolds ac R Bryn Williams, diolch i gysylltiadau ei fodryb.

Gwyneth Brindell yn cofio bywyd peirianwyr Bangor

Image caption Emrys Williams gyda WR Owen, pennaeth y BBC ym Mangor ar ôl Sam Jones yn Eisteddfod Llangollen; Merch Emrys, Gwyneth, gydag un o faneri'r BBC oedd yn cael ei gosod mewn eisteddfodau

Roedd y BBC ym Mangor yn ail gartref i Gwyneth Brindell o Fangor gan fod ei thad, Emrys Williams, yn beiriannydd yno o'r dyddiau cynnar. Byddai Gwyneth yn mynd gyda'i thad i lawer o ddarllediadau yng nghanolfan y BBC ac ar leoliad.

"Pan o'n i tua 10 neu 11 oed ro'n i'n mynd efo fy nhad i raglenni fel 'Workers Playtime' a 'Top of the Form', rhaglenni oedd o ddiddordeb i mi fel plentyn, ac roedden nhw'n lot fawr o hwyl," cofia Gwyneth.

"Mi fyddai bob amser yn gwisgo siwt neu sports jacket i'r gwaith a phob amser yn rhoi ei fathodyn ar ei lapel pan oedd yn y gwaith - arfbais y BBC mewn lliw arian ar gefndir o enamel glas.

"Mae baneri'r BBC o ddigwyddiadau fel Eisteddfod Llangollen yn dal gen i - roedden nhw'n cael eu hongian ar ochr cytiau'r BBC, fel roedden nhw bryd hynny, ar faes yr Eisteddfod."

Y Parch Aelwyn Roberts - rhwng dwy swydd

Image caption Roedd rhaid i'r Parch. Aelwyn Roberts ruthro o ymarferion yn Neuadd y Penrhyn i gychwyn gwasanaethau yn Eglwys Gadeiriol Bangor

Roedd y Parch. Aelwyn Roberts yn is-ganon gyda'r Eglwys ym Mangor pan ddechreuodd 'sgrifennu i raglenni'r BBC ym Mangor dan anogaeth Sam Jones.

Am fod cyflog clerigwr mor isel cafodd ganiatâd y Deon i gymryd swydd barhaol gyda'r BBC er mwyn ennill ychydig mwy o arian - ar yr amod nad oedd ei ddyletswyddau gyda'r eglwys yn dioddef.

Ond roedd gwneud y ddwy swydd yn golygu bod yn rhaid iddo fod mewn dau le ar yr un pryd yn aml iawn.

Am chwech o'r gloch y nos roedd yn rhaid iddo fod yn yr Eglwys Gadeiriol ym Mangor i ddechrau'r gwasanaeth nosweithiol. Yr un pryd roedd ymarferion ar gyfer darllediadau'r BBC o Neuadd y Penrhyn gerllaw yn digwydd.

Yr ateb oedd cael toriad yn ymarferion y rhaglen a rhedeg fel y gwynt rhwng dau le.

"Mi fyddwn i'n mynd yn fy nghasog i rihyrsio yn Penrhyn Hall," meddai.

"Ar ôl rihyrsio ychydig mi fyddwn i'n edrych ar fy watch ac yn gweld ei bod yn bum munud ar hugain i chwech. Mi fyddwn yn rhedeg i'r Gadeirlan, rôbio amdanaf, allan o wynt, canu'r gwasanaeth ac yna off a fi fel bwlet yn ôl! Byddai'r cynhyrchydd wedyn yn gweiddi 'break over!' a'r ymarferion yn parhau!"

Eirwen Jones ac Elinor Williams: 'Côr Glanaethwy ein dydd!'

Image caption Chwith: Eirwen Jones gyda'r côr ar glawr record rhaglen 'With Heart and Voice'. Dde: Elinor Williams ac Eirwen Jones yn hel atgofion gyda Dei Tomos

Roedd Eirwen Jones ac Elinor Williams tua 15 oed pan ymunon nhw â Chôr Merched Bae Colwyn oedd yn teithio dramor ond hefyd yn recordio'n gyson ar raglenni'r BBC.

"Roedd yn gyfnod braf ac yn gyfle da i ddod i adnabod pobl - roedd yr un fath yn union a be' mae pobl ifanc yn ei gael mewn llefydd fel Glanaethwy rŵan," meddai Elinor Williams.

Ym Mangor gyda'r côr roedd Eirwen Jones pan glywodd hi'r newyddion am farwolaeth JF Kennedy.

Mae hi'n cofio'r peiriannydd Tudwal Roberts yn dod allan o du ôl i'r ffenestr wydr i roi'r newyddion iddyn nhw.

"Dwi'n cofio fo'n dod allan un nos Wener i ddweud wrthon ni fod Kennedy wedi cael ei saethu," meddai. "Fel dwi'n cofio mi ddaru James Williams ein cael ni i gyd fel côr i godi fyny a chanu 'Mae D'eisiau Di Bob Awr', a chlywed wedyn ei fod o wedi cael ei anafu ac wedi marw."

Bydd rhagor o atgofion BBC Bangor i'w clywed yma:

Dei Tomos, BBC Radio Cymru, Nos Fawrth, 3 Tachwedd 18:15

Cofio, BBC Radio Cymru, Nos Fercher, 4 Tachwedd, 18:15