Ymosodiad: Carcharu milwr o Ynys Môn

Stephen Parry Image copyright Heddlu Gogledd Cymru

Yn Llys y Goron Caernarfon mae milwr 28 oed o Ynys Môn wedi cael pedair blynedd a hanner o garchar am ymosod ar fyfyriwr 18 oed mewn gardd tafarn.

Dywedodd y Barnwr Rhys Rowlands fod gan Stephen Parry, aelod o'r Gwarchodlu Cymreig o Amlwch, gefndir o ymddwyn yn dreisgar a bod Tudor Morris Jones wedi gorfod cael llawdriniaeth fawr ar ôl cael niwed i'w ben.

Roedd Parry wedi ei daro ar ei ben gyda mwg heb reswm o gwbl.

Fe blediodd Parry yn euog i gyhuddiad o achosi niwed bwriadol.

Dywedodd Anna Pope ar ran yr amddiffyn fod y diffynnydd wedi bod yn diodde' o iselder.

Cafodd Parry orchymyn atal, yn ei rwystro rhag cysylltu â Mr Jones nag unrhyw aelod o'i deulu am bum mlynedd.