Etholiad y Cynulliad yn 'refferendwm ar y GIG'

Ward Image copyright Thinkstock
Image caption Mae Cymru yn haeddu Gwasanaeth Iechyd gwell, yn ôl Andrew RT Davies

Bydd arweinydd Ceidwadwyr Cymru yn dweud ddydd Mercher bod etholiad y Cynulliad 2016 yn "refferendwm" ar y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Fe fydd Andrew RT Davies yn dweud wrth gynhadledd y Ceidwadwyr y bydd mynediad i'r GIG yn gwella a buddsoddiad yn y gwasanaeth yn cynyddu pe bai'r Torïaid yn dod i bŵer.

Bydd Mr Davies yn dadlau mai dim ond y Ceidwadwyr all roi "dechrau ffres" i Gymru gan roi diwedd i Lywodraeth Lafur.

Fe fydd hefyd yn addo "chwyldroad busnesau bach" ac ariannu ysgolion yn uniongyrchol, yn hytrach na thrwy gynghorau.

Image caption Bydd Andrew RT Davies yn dweud y byddai'r Ceidwadwyr yn "diogelu cyllideb y Gwasanaeth Iechyd"

Bydd Mr Davies yn dweud wrth y gynhadledd ym Manceinion y byddai Llywodraeth Geidwadol yng Nghymru yn "diogelu cyllideb y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru", gan addo torri amseroedd aros a gwella gofal a gwasanaethau i gleifion.

"Ar ôl 17 mlynedd o reolaeth Llafur yng Nghymru, dyw ein cymunedau yn haeddu dim llai," bydd yn dweud.

"Fe fydd etholiad y flwyddyn nesaf yn refferendwm ar ddyfodol Gwasanaeth Iechyd Cymru."

Bydd Mr Davies hefyd yn dadlau y gall cynlluniau'r Ceidwadwyr i leihau cyfraddau busnes i gwmnïau llai adfywio strydoedd mawr.