Gwahardd Hooper rhag chwarae i Awstralia
- Cyhoeddwyd

Mae blaenasgellwr dylanwadol Awstralia, Michael Hooper, wedi cael ei wahardd rhag chwarae yng Nghwpan Rygbi'r Byd am wythnos.
Plediodd Hooper yn euog i gyhuddiad o chwarae budr yn y fuddugoliaeth dros Loegr ddydd Sadwrn diwethaf, a bydd nawr yn colli'r gêm yn erbyn Cymru brynhawn Sadwrn, 10 Hydref, i benderfynu pwy fydd yn gorffen ar frig Grŵp A.
Defnyddiodd ei ysgwydd yn hytrach na'i freichiau wrth geisio disodli un o'r Saeson o sgarmes rydd.
Mae'r drosedd fel arfer yn golygu gwaharddiad o bythefnos ond dywedodd llefarydd ar ran World Rugby bod y panel disgyblu wedi ystyried nifer o bethau, gan gynnwys bod Hooper wedi syrthio ar ei fai.
Ergyd arall
Roedd y newyddion yn ergyd arall i Awstralia yn dilyn newyddion am anafiadau.
Gallai'r cefnwr Israel Folau fod yn absennol yn erbyn Cymru oherwydd anaf i'w droed a gafodd yn erbyn Lloegr, a dyw'r asgellwr Rob Horne ddim wedi ymarfer gyda'r garfan ers y penwythnos oherwydd anaf i'w ysgwydd.
Mae'r ddau dîm eisoes wedi sicrhau eu lle yn rownd yr wyth olaf ond y gêm brynhawn Sadwrn fydd yn penderfynu pwy fydd eu gwrthwynebwyr.
Y tebygrwydd yw y bydd y tîm sy'n colli'n wynebu De Affrica yn y chwarteri gyda'r buddugwyr yn herio'r Alban.
Cofiwch am safle arbennig Cwpan y Byd ar BBC Cymru Fyw.