Ehangu ffatri beirianneg ym Mhowys
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Dynacast
Bydd cwmni sy'n arbenigo ar beirianneg manwl yn ehangu eu cyfleusterau yn eu pencadlys gweithgynhyrchu ym Mhrydain, yn Y Trallwng ym Mhowys.
Mae'r gwaith ar safle Dynacast wedi dechrau, ac mae disgwyl i'r datblygiad arwain at greu saith o swyddi newydd.
Y safle yn y Trallwng yw pencadlys Dynacast ym Mhrydain.
Mae Dynacast yn cynhyrchu rhannau ar gyfer peiriannau i gwmnïau ar draws y byd.