Carwyn Jones: Angen 'gohirio' mesur Cymru

Carwyn Jones Image copyright PA
Image caption Mae Carwyn Jones yn poeni y gallai'r cynigion newydd arwain at lai o bwerau

Mae prif weinidog Cymru Carwyn Jones wedi gwrthod honiad David Cameron ei fod yn "chwarae gwleidyddiaeth" drwy feirniadu geiriad y mesur fydd yn rhoi mwy o rym i'r Cynulliad.

Wrth siarad ar raglen Dylan Jones ar BBC Radio Cymru fore dydd Llun galwodd Mr Jones am ohirio'r mesur er mwyn cynnal mwy o drafodaethau.

Dywedodd Carwyn Jones: "Mae 'na brobleme' mawr gyda'r Bil fel mae e ar hyn o bryd. Beth fi wedi g'weud wrth Stephen Crabb yw - y peth gore ' i ni wneud yw hala tipyn bach o amser, nawr - gohirio'r Bil ar hyn o bryd, er mwyn ei gael e'n iawn.

"Mae 'na brobleme' mawr gyda fe ar hyn o bryd. Dw i ddim yn meddwl fod David Cameron wedi darllen y Bil.

"'Dy ni'n fodlon trafod 'da nhw ond lan i nawr, be 'dy ni wedi gael yw -'hwn yw'r bil, tough' - 'sdim trafod i fod."

Pwerau

Roedd David Cameron wedi cyhuddo prif weinidog Cymru Carwyn Jones o "chwarae gwleidyddiaeth" gyda chwestiwn pwerau'r Cynulliad Cenedlaethol cyn etholiadau'r flwyddyn nesaf.

Dywedodd Mr Cameron ei fod o'n gwrthod honiad Mr Jones y byddai cynlluniau Llywodraeth San Steffan ynglŷn â datganoli yn lleihau pwerau'r Cynulliad.

Yn ôl Mr Cameron, hon oedd yr unig lywodraeth sydd wedi cytuno i amddiffyn gwariant llywodraeth Cymru a hynny drwy osod isafswm ar gyfer Fformiwla Barnett -y fformiwla sy'n penderfynu faint o gyllideb sydd ar gael i Lywodraeth Bae Caerdydd.

Mae disgwyl i'r manylion ynglŷn â sut y bydd yr isafswm yn cael ei benderfynu, gael eu cyhoeddi fis nesa.

Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru dywedodd Mr Cameron fod y llywodraeth wedi bod yn ddidwyll wrth gynnal trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru am fwy o bwerau.

Yn dilyn refferendwm Yr Alban y llynedd, roedd Mr Cameron wedi gaddo rhoi "mwy o lais" i bobl Cymru.

Mesur Cymru - y stori hyd yn hyn

Canolbwynt y ddadl yw pa bwerau ddylai aros yn San Steffan dan ddatganoli pellach.

Mae rhestr o'r pwerau hynny yn cael ei lunio fel rhan o ddeddfwriaeth newydd gan Lywodraeth y DU o'r enw Mesur Cymru.

Hyd yn hyn, mae pwerau penodol wedi eu datganoli i Fae Caerdydd ond bydd y newid arfaethedig yn golygu y bydd popeth sydd wedi ei hepgor o'r mesur wedi ei ddatganoli.

Yn gynharach yn 2015, fe gytunodd y prif bleidiau ar rai pethau y dylid eu datganoli, yn cynnwys pwerau dros rai prosiectau ynni, trefniadau etholiadol a rhannau o bolisi trafnidiaeth.

Nawr, mae 'na ddadlau ynglŷn â beth ddylai'r rhestr o bwerau wrth-gefn - y rhai hynny fydd yn aros yn San Steffan - ei gynnwys.

Mae Carwyn Jones wedi dweud na fydd yn derbyn unrhyw ymgais i wanhau pwerau'r cynulliad.

Ond mae David Cameron yn gwadu y bydd y ddeddfwriaeth yn gwneud hynny.

Mae disgwyl i ddrafft cyntaf Mesur Cymru gael ei gyhoeddi ym mis Hydref.

Image copyright Getty Images
Image caption David Cameron: Cyhuddo Carwyn Jones o 'chwarae gwleidyddiaeth'

'Gwir ddatganoli'

Ond ers hynny mae Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb wedi dweud ei fod ef yn besimistaidd ynglŷn â sicrhau cytundeb ynglŷn â'r cam nesa.

Dywedodd Mr Cameron: "Mae hyn angen cytundeb, ac rydym yn ddidwyll wrth gynnal trafodaethau gyda phleidiau eraill yng Nghymru a dyna sydd angen i ddigwydd.

"Mae'n rhaid i hyn ddod drwy gytundeb, ond dylai hyn ddim rhwystro beth fyddwn i yn ei alw yn "wir ddatganoli - sef rhoi pŵer i bobl Cymru dros eu bywydau bob dydd.

"Rydym wedi torri trethi pobl Cymru, rydym yn awyddus i bobl Cymru fod yn berchen ar eu cartrefi, i fod â mwy o bwerau dros eu bywydau, felly bydd hyn yn parhau tra bod y gwleidyddion yn dal i drafod."

Yn ddiweddarach y mis hwn mae disgwyl i Lywodraeth y DU gyhoeddi cynlluniau drafft ynglŷn â newid y ffordd mae datganoli yn gweithio. Y nod yw ei gwneud yn glir pwy sy'n gyfrifol am beth - San Steffan neu Fae Caerdydd.

Ond mae Carwyn Jones wedi awgrymu y gallai'r cynigion presennol arwain at lai o bwerau.

'Isafswm gwariant'

Dywedodd Mr Cameron: "Nid wyf yn derbyn hynny am eiliad, a hefyd rhaid cofio mai hwn yw'r llywodraeth gyntaf erioed i warantu isafswm gwariant ar gyfer yr arian sy'n dod i Gymru.

"Felly rwy'n meddwl fodd yna ychydig o chwarae gwleidyddiaeth yn fan hyn o ran Prif Weinidog Cymru, a hynny mwy na thebyg oherwydd bod yna etholiadau'r flwyddyn nesaf..."

"Byddwn i hefyd yn dweud fod yna bethau arall yr un mor bwysig, o bosib yn fwy pwysig, fel bwrw 'mlaen gyda'r pethau sy'n bwysig ac yn effeithio pobl Cymru - trydaneiddio y rheilffordd i Abertawe, dod ag atomfa niwclear i Sir Fôn, adeiladu carchar yn Wrecsam.

"Mae'r materion yma wedi aros yn eu hunfan yn rhy hir a nawr yn symud ymlaen oherwydd llywodraeth sydd am weld y gorau i Gymru."

Image copyright PA