Cymeradwyo cau ysgol yng Ngheredigion

Mae apêl munud ola' ysgol yng Ngheredigion i aros ar agor wedi methu, wrth i gynghorwyr gefnogi penderfyniad y cabinet i gau Ysgol Cwm Padarn.
Fe gafodd y penderfyniad ei alw i mewn gan rai cynghorwyr lleol, ond yn ystod pwyllgor craffu fore Llun, fe bleidleisiodd aelodau i fwrw 'mlaen â'r cynllun.
Mae hyn yn golygu y gallai'r ysgol gau ddiwedd y flwyddyn academaidd hon.
Bydd rhaid i ddisgyblion fynychu ysgolion yn Aberystwyth a Phenparcau.