Dilyn y sêr o Gastellnewydd Emlyn
- Cyhoeddwyd
Adroddiad Iwan Griffiths, Newyddion 9
Mae'r gêm rhwng Cymru a Lloegr wedi cael eu disgrifio fel un enfawr gan hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, a bydd trigolion ardal Castellnewydd Emlyn yn atseinio hynny.
Mae dau o olwyr Cymru yn dod o'r ardal ac yn nabod ei gilydd yn arbennig o dda.
Roedd Scott Williams a Gareth Davies yn yr un Ysgol Feithrin, cyn iddyn nhw gamu ymlaen trwy'r ysgol gynradd ac uwchradd ochr yn ochr.
A cyn y gêm fawr, mae'r tensiwn yn cynyddu a'r gemau geiriol wedi dechrau, gyda chanolwr Lloegr, Sam Burgess, yn dweud nad oedd wedi clywed am Scott Williams.
Daeth hynny ar ôl i Williams ddweud y byddai'n well ganddo fod yn wynebu Burgess, sy'n ddewis annisgwyl, yn hytrach nad Jonathan Joseph, sydd wedi anafu.
Cyn y gêm fawr fe aeth Iwan Griffiths, gohebydd BBC Cymru, i ardal Castell Newydd Emlyn i glywed mwy gan deuluoedd y ddau olwr, gan ddechrau gydag Ann Davies, mam Gareth y mewnwr.