Penderfynu rhoi grant prosiect awtistiaeth 'yn rhyfedd'
Gareth Bryer
BBC Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae sut y rhoddodd Llywodraeth Cymru grant ar gyfer prosiect awtistiaeth yn "rhyfedd," medd Aelod y Cynulliad.
Dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad, Darren Millar, y byddai'n cyfeirio'r mater i'r Archwilydd Cyffredinol.
Daeth y mater i'r amlwg wedi ymchwiliad BBC Cymru wnaeth ddarganfod fod grant wedi ei roi i elusen arall yn hytrach na'r elusen wnaeth y cais am yr arian.
Dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedd yn bwysig pa enw oedd ar y cytundeb gan fod y ddwy elusen yn rhan o'r un grŵp.
£70,000
Cafodd elusen Autism Initiatives UK gynnig cytundeb gwerth £70,000 ar gyfer cynllun peilot er mwyn dod o hyd i waith ar gyfer pobl ar lefel uwch y sbectrwm awtistiaeth.
Ond cwmni elusen o Gymru, Autism Spectrum Connections Cymru, wnaeth gais am arian.
Cafodd yr elusen Gymreig ei sefydlu gan Autism Initiatives ond mae'r ddwy elusen yn gyrff ar wahân o safbwynt cyfreithiol.
Dywedodd y cyfreithiwr, Giselle Davies o gwmni Geldards, fod ganddi hi bryderon.
Gan fod y cwmni anghywir wedi ei enwi yn y cytundeb, meddai, pe bai rhywbeth yn mynd o'i le mae'n bosib na fyddai'r llywodraeth yn gallu hawlio arian yn ôl.
"Mae'n bosib pe bai pethau'n mynd o'i le y byddai Llywodraeth Cymru yn gofyn i Autism Initiatives i dalu o arian wrth gefn. Ond dwi ddim yn 100% hyderus mai dyna beth fyddai'n digwydd," meddai.
"Mae'n bosib dadlau nad oes modd gweithredu'r cytundeb. Pe bai hyn yn gywir, mae angen edrych ar y peth a'i gywiro."
Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth eu bod yn monitro'r prosiect yn gyson a bod y targedau i gyd wedi cu cyrraedd.