Perygl y 'pwerdai iaith'?

Canolfan Soar
Image caption Mae adroddiad wedi awgrymu fod Canolfan Soar yn cyfrannu £1.3m at economi ardal Merthyr Tudful

Wrth i astudiaeth awgrymu fod Canolfan Gymraeg Soar, Merthyr Tudful, werth dros £1m i'r economi leol, a galw am sefydlu mwy o ganolfannau tebyg ar draws y wlad i hybu'r iaith, mae Cymru Fyw wedi holi Cefin Campbell - un o sylfaenwyr menter iaith gyntaf Cymru yng Nghwm Gwendraeth.

Tra'i fod yn croesawu eu twf, mae ganddo rybudd i rai sy'n edrych ar strategaeth y canolfannau i ofalu nad ydyn nhw'n tanseilio'r iaith mewn ardaloedd mwy traddodiadol.

Ydy hi'n syniad da cael cymaint o ganolfannau iaith ar draws Cymru?

Dwi'n croesawu datblygu rhwydwaith o ganolfannau iaith ar draws Cymru. Mae'n efelychu be' sy'n digwydd yng Ngwlad y Basg, er enghraifft, lle mae ganddyn nhw dros 100 o Euskaltegi, sef canolfannau iaith.

Be' mae'r Basgiaid yn ei wneud gyda'r canolfannau yw eu datblygu fel pwerdai iaith - canolfannau lle mae dysgwyr y Fasgeg yn mynd i gael gwersi iaith, ond hefyd i gwrdd â siaradwyr brodorol Basgeg mewn sefyllfaoedd ffurfiol a llai ffurfiol, ond hefyd i fwynhau gweithgareddau cymdeithasol trwy gyfrwng yr iaith Fasgeg.

Mae'r rhain wedi bod yn llwyddiannus iawn yng Ngwlad y Basg, a mi allwn ni weld rhywbeth tebyg yn digwydd yng Nghymru. Felly, am y rheswm hynny, rwy'n croesawu nhw fel pwerdai allai fod yn sbardun i fwrlwm iaith yn eu hardaloedd.

Ond mae'n rhaid bod yn ofalus beth yw rôl y canolfannau iaith yma mewn ardaloedd lle mae'r Gymraeg yn iaith gynhenid, naturiol mewn cymunedau o hyd.

Y perygl, efallai, bod y canolfannau iaith yma fyddai'n cael eu sefydlu mewn trefi yn gwanhau gweithgareddau naturiol, organig, sydd yn digwydd mewn llefydd o gwmpas trefi - mewn pentrefi, mewn neuaddau lleol, capeli, clybiau chwaraeon ac ati - drwy sugno'r egni a'r gweithgareddau hynny i mewn i'r canol.

Image caption Mae dros 100 o Euskaltegi yng Ngwlad y Basg, sydd wedi bod yn llwyddiant mawr, medd Cefin Campbell

Felly, os nad yw'r strategaeth yn gywir, ydych chi'n credu y gallai'r canolfannau arwain at ddirywiad yn y defnydd o'r Gymraeg mewn rhai achosion?

Wel y tensiwn fyddai rhwng cryfhau gweithgareddau mewn tre' ac, o bosib, tanseilio ymdrechion organig sydd wedi bodoli ers cenedlaethau yn y pentrefi o gwmpas y dre'. Ond yr her, wrth gwrs, i reolwyr y canolfannau yma yw sicrhau na fyddai hynny'n digwydd.

Mi faswn i'n meddwl bod synnwyr cyffredin yn mynd i ddweud, ac unrhyw un sydd â chrebwyll cynllunio iaith yn mynd i weld y bygythiad ac ymateb iddo fe mewn ffordd gadarnhaol.

Fyddech chi'n mynd mor bell â dweud nad oes angen canolfannau iaith mewn rhai ardaloedd, ble mae'r Gymraeg yn fyw ac iach?

Na, dwi ddim yn dweud hynny. Dwi'n meddwl bod 'na gyfiawnhad dros sefydlu canolfannau, er enghraifft, ym Mangor, Caerfyrddin, Llanelli ac yn y blaen.

Ond mi allen nhw sbarduno a chefnogi gweithgarwch lleol ac ymestyn efallai dalgylch y canolfannau i gynnwys ardaloedd o gwmpas, a bod rhaid i'r balans yna fod yn adlewyrchu deinamig lleol, efallai mwy gwledig, a dynamig trefol hefyd. Mater o gael y cydbwysedd hwnnw'n iawn yw'r her.

Mae'n llawer rhy gynnar i ddweud - o ran y ganolfan yng Nghaerfyrddin, er enghraifft, dim ond ers 'chydig wythnosau mae hi wedi agor ei drysau felly mae'n amhosibl mesur.

Ond hwyrach fod angen astudiaeth o draweffaith y canolfannau mewn ardaloedd Cymraeg 'falle rhywbryd yn y blynyddoedd nesa'.

Un gymwynas fawr y gallai'r canolfannau yma ei wneud yw rhoi cartre' i ddysgwyr yr iaith, oherwydd mae dysgwyr mewn trefi, hyd yn oed y pentrefi cyfagos, dy'n nhw ddim yn siŵr iawn ble i fynd i gynnal sgyrsiau yn Gymraeg - mewn siopau, neu dafarndai neu lefydd bwyta.

Felly byddai mynd i ganolfan i gael bwyd, neu baned neu i weithgaredd yn sicrhau cyfle iddyn nhw ymarfer eu sgiliau iaith. Dwi'n credu yn hynny o beth fod y canolfannau'n gwneud cyfraniad pwysig.

Image caption Mae'n ddyddiau cynnar ar gyfer Canolfan Gymraeg Yr Atom yng Nghaerfyrddin

Be allai'r canolfannau ddysgu oddi wrth y mentrau iaith?

Yn nyddiau cynnar y mentrau iaith roedd rhaid i ni fod yn ofalus iawn fod gweithgaredd y mentrau eu hunain ddim yn tanseilio neu ddisodli gweithgaredd oedd yn digwydd yn naturiol yn y cymunedau.

Ac felly'r strategaeth, yn sicr o'n safbwynt i, oedd cefnogi gweithgaredd oedd yn digwydd yn naturiol, a llenwi bylchau lle nad oedd gweithgaredd cyfrwng Cymraeg yn digwydd.

Y peth cynta' wnaethon ni yn nyddiau cynnar y mentrau iaith oedd cynnal arolwg o beth oedd yn digwydd ym mhob cymuned, pa gymdeithasau neu grwpiau cymunedol oedd yn cynnal beth, ac i ba raddau oedd y gweithgareddau hyn yn cael eu cynnal drwy gyfrwng y Gymraeg.

Felly roedd gennym ni ryw waelodlin i adeiladu arno - gwaith mapio oedd hynny, wrth gwrs. Yn sydyn wedyn roedd rhywun yn gallu gweld ble roedd y bylchau a ble roedd angen cefnogaeth ar weithgaredd organig.

Be fyddai'ch neges, felly, i rai sy'n llunio strategaeth ar gyfer y canolfannau iaith?

Bydd angen i bob canolfan i adnabod anghenion lleol ac i weithio mewn partneriaeth gyda mudiadau a grwpiau cymdeithasol er mwyn ychwanegu gwerth i bopeth sydd yn digwydd yn barod, a llenwi bylchau yn y ddarpariaeth lle mae bylchau yn bodoli.

Felly, yn gyffredinol, rwy'n croesawu'n fawr y datblygiad yma a bod angen mwy o ganolfannau, ond mae angen i strategaeth bob canolfan fod yn wahanol er mwyn ymateb i flaenoriaethau ieithyddol yr ardal maen nhw'n eu gwasanaethu.

Image copyright Mick Lobb/ Geograph
Image caption Bydd Canolfan Gymraeg yng Nghaerdydd yn cael ei lleoli yn Yr Hen Lyfrgell yn Yr Aes

Straeon perthnasol