Ffordd iawn o siarad Cymraeg?

iwan rees

Oes yna ffordd 'iawn' o siarad Cymraeg? Fel rhan o gyfres o eitemau Agwedd@Iaith mae Cymru Fyw wedi gofyn i Dr Iwan Wyn Rees - sy'n gweithio ar brosiect gyda'r nod o gyflwyno tafodieithoedd y Gymraeg i actorion a sgriptwyr - am ei farn.


Agweddau at dafodieithoedd

A hithau'n flwyddyn academaidd newydd yn ein prifysgolion, mae'n siŵr fod nifer o ddarpar fyfyrwyr yn edrych ymlaen at fywyd prifysgol am y tro cyntaf. Rhan gyffrous o'r profiad hwnnw yw cyfarfod â phobl newydd, a dyfalu o ba ran o'r wlad maent yn dod ar sail eu tafodiaith.

Mae nifer o Gymry Cymraeg wrth gwrs yn ymhyfrydu yn iaith ardaloedd eu mebyd, a rhai fel petaent yn gwneud ati i daflu ambell 'su'mai wâ', 'nene ene' neu 'hwnco mynco' i mewn i sgwrs!

Fodd bynnag, wrth drafod tafodieithoedd, mae tuedd yn y Gymru sydd ohoni i ystyried amrywiadau 'traddodiadol' yn unig - hen eiriau hynod, os mynnwch. Rhaid cofio fod 'tafodieithoedd newydd' i'w cael hefyd yng Nghymru, ac mai'r rhain sydd fwyaf cyffredin bellach mewn nifer o ysgolion Cymraeg.

'Bratiaith' a 'llediaith'

Yn anffodus, nid yw nifer o Gymry yn ystyried bod yr amrywiadau newydd hyn ar y Gymraeg yn 'dafodieithoedd' dilys. Mae rhai o'u beirniaid yn mynd mor bell â lladd ar 'Rydfelyneg' neu 'Daf-Odiaith', gan alw'r mathau newydd hyn o Gymraeg yn 'fratiaith' neu'n 'llediaith'.

Dylid pwysleisio yma nad termau ieithyddol technegol mo'r rhain, a bod elfen gref o ragfarn yn perthyn iddynt.

Gan amlaf, cyfeirio at eiriau a chystrawennau sy'n drwm o dan ddylanwad y Saesneg y mae 'bratiaith' - ffurfiau fel 'rili gwd', 'lyfio', 'lle ti'n dod o' a 'rhy gormod', er enghraifft. Ymwneud ag acen y mae 'llediaith' wedyn, a chaiff y gair hwn ei ddefnyddio yn aml ar gyfer disgrifio seiniau a goslef sy'n swnio'n Seisnigaidd.

'Gwell Cymraeg slac na Saesneg slic'?

Mae'n ymddangos mai byrdwn y llinell boblogaidd hon gan Ifor ap Glyn yw bod unrhyw fath o Gymraeg yn well na dim Cymraeg o gwbl. Yn ddiddorol, clywais sawl un o amddiffynwyr rhai o'n tafodieithoedd newydd yn dyfynnu hon yn ddiweddar.

Ynghlwm wrth y llinell (neu'r ddihareb) hon, mae yma awgrym fod 'puryddion iaith' ar fai am ladd ar safonau iaith siaradwyr 'Cymraeg slac'.

Byddai rhai yn mynd ymhellach ac yn honni mai diffyg goddefgarwch a pharch tuag at amrywiadau newydd sy'n achosi i nifer o bobl fod yn ansicr yn eu Cymraeg, a bod hynny yn y pen draw yn achosi iddynt droi i'r Saesneg, gan beidio â throsglwyddo Cymraeg i'w plant.

Image caption "Gwell Cymraeg slac na Saesneg slic", meddai Ifor ap Glyn.

Cynyddu hyder siaradwyr

Ond ai myth yw'r canfyddiad hwn fod 'puryddion iaith' yn gwneud drwg i hyder rhai siaradwyr Cymraeg? Onid yw hi yr un mor debygol fod diffyg hyder yn y Gymraeg yn deillio o ganfyddiadau'r siaradwyr eu hunain fod eu Saesneg yn well?

Os felly, er bod derbyn pob math o Gymraeg, 'waeth pa mor ramadegol ansafonol y bo, yn swnio'n ddelfrydol, mae lle i amau a fyddai hynny ynddo'i hun yn ddigon i gynyddu hyder siaradwyr Cymraeg.

Mae'n bosibl felly mai'r ffordd orau o gynyddu hyder disgyblion yn eu Cymraeg yw eu trwytho yn gynnar (yn yr ysgolion cynradd hyd yn oed) yn rheolau gramadegol yr iaith.

Y ffordd ymlaen?

Er fy mod yn siŵr mai parhau i amrywio fydd agweddau gwahanol bobl at amrywiadau newydd ar y Gymraeg, byddai'n dda gweld rhai Cymry yn rhoi heibio eu tuedd i wawdio acenion (h.y. seiniau a goslef) sy'n ddieithr iddynt.

Wedi'r cyfan, er bod modd i acenion newydd swnio'n dra gwahanol i amrywiadau traddodiadol ar y Gymraeg, maent yn rhan o esblygiad a pharhad yr iaith, a dylid dathlu hynny.

Fodd bynnag, rhaid cydnabod mai canlyniad derbyn unrhyw fath o Gymraeg ym mha bynnag sefyllfa fyddai gostyngiad cyffredinol mewn safonau.

Os ydym am i'r Gymraeg ddatblygu fel iaith broffesiynol arferol drwy Gymru, mae'n rhaid i'n hysgolion yn fy marn i ysgwyddo cyfrifoldeb a sicrhau bod modd i'w disgyblion gyfathrebu yn hyderus ac yn raenus yn y Gymraeg.

Testun pryder i mi felly yw diffyg hyder ieithyddol llawer o gyn-ddisgyblion ar draws Cymru sydd wedi derbyn addysg Gymraeg.

Image caption Ai iaith y dosbarth yn unig yw'r Gymraeg?

Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno gyda safbwynt Dr Iwan Rees? E-bostiwch cymrufyw@bbc.co.uk neu gysylltwch drwy @BBCCymruFyw ar Twitter.