Rotherham 2-1 Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Fe enillodd Rotherham eu gêm gynghrair gyntaf y tymor hwn, diolch i Matthew Connolly - darodd y bêl i'w rwyd ei hun ym munud ola'r gêm.
Roedd Caerdydd yn chwarae â 10 dyn ers diwedd yr hanner cyntaf, wedi i gôl geidwad yr Adar Gleision, David Marshall gael ei anfon o'r cae a sicrhau cic o'r smotyn i'r tîm cartref.
Fe unionodd Caerdydd y sgôr bum munud yn ddiweddarach - cic o'r smotyn i Peter Whittingham wedi i Fabio gael ei lorio gan Farrend Rawson.
Er iddi aros yn gyfartal gydol yr ail hanner, fe darodd Connolly groesiad Chris Maguire i'w rwyd ei hun funudau cyn y chwiban olaf.