Tân: Ymchwiliad wedi marwolaeth dynes
- Cyhoeddwyd

Cafodd y gwasanaeth tân eu galw i dafarn Y Llew Coch ar Waterfall Road am 16:20
Mae'r gwasanaeth tân yn ymchwilio wedi i ddiffoddwyr ganfod corff menyw mewn gwesty ym mhentref Dyserth, wrth geisio diffodd tân yn yr adeilad.
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i westy Y Llew Coch ar Waterfall Road am 16:20 ddydd Gwener.
Fe gafodd criwiau o ddiffoddwyr o'r Rhyl, Abergele a Threffynnon eu gyrru i'r safle, ond erbyn iddyn nhw gyrraedd roedd y tân wedi gafael yn llawr cynta'r adeilad.
Llwyddodd diffoddwyr i gael mynediad i'r adeilad gydag offer anadlu arbennig, ac fe ddaethon nhw o hyd i gorff y fenyw y tu mewn.
Straeon perthnasol
- 18 Medi 2015