BBC Cymru Fyw

Diflaniad Alec Warburton: Tenant wedi'i arestio

Published
image captionRoedd yr heddlu wedi apelio i ddarganfod David Craig Ellis
Mae heddlu yn Iwerddon wedi arestio dyn mewn cysylltiad â diflaniad Alec Warburton o Abertawe.
Dywedodd Heddlu'r De bod tenant Mr Warburton, David Craig Ellis, 40 oed, wedi ei arestio.
Ychwanegwyd eu bod yn gweithio gyda'r Garda i'w estraddodi yn ôl i'r DU.
Cafodd Mr Warburton, 59 oed, ei weld ddiwethaf ar 31 Gorffennaf yn ei gartref yn ardal Sgeti, Abertawe.
Yn yr wythnosau wedyn, fe wnaeth yr heddlu gadarnhau eu bod yn trin y diflaniad fel achos o lofruddiaeth.
Does dim mwy o wybodaeth eto.
image captionCafodd Alec Warburton ei weld ddiwethaf ar 31 Gorffennaf