Apêl am hanes CPD Bangor yn Ewrop i greu arddangosfa
- Cyhoeddwyd

Mae Clwb Pêl-droed Bangor yn apelio am atgofion y cyhoedd i greu arddangosfa am hanes y clwb yn Ewrop.
Bydd arddangosfa Bangor yn Ewrop yn cyfleu hynt a helynt y clwb yn Ewrop yn ogystal â'r timau Ewropeaidd ddaeth i Fangor i chwarae.
Mae gan y clwb hanes lliwgar yn Ewrop, gan gynnwys gemau enwog yn erbyn Napoli yn 1962 ac Atletico Madrid yn 1985.
Mae Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Bangor yn symud i adeilad Plas yr Esgob yr hydref yma fel rhan o brosiect Cronfa Dreftadaeth y Loteri i ehangu mynediad at gasgliadau'r amgueddfa. 'Storiel' fydd enw'r amgueddfa ar ei newydd wedd.
Bydd gofod yn yr amgueddfa i grwpiau cymunedol guradu arddangosfeydd o dro i dro, a Chymdeithas Cefnogwyr Clwb Pêl-droed Bangor fydd y cyntaf i roi arddangosfa at ei gilydd yn y gofod yma, a hynny ym mis Ionawr 2016.
Bu Glynne Roberts o Gymdeithas Cefnogwyr Clwb Pêl-droed Bangor ar raglen Ar y Marc Radio Cymru fore Sadwrn i gychwyn yr apêl am atgofion.
Dywedodd Lois Jones o'r amgueddfa: "Os oes gan bobl atgof neu femorobilia hoffent rannu gallant gysylltu efo ni yn yr amgueddfa".