Dirprwy brif weinidog China yng Nghymru

liu yandong

Mae Carwyn Jones yn edrych ymlaen at drafod perthynas economaidd Cymru â China wrth iddo groesawu un o brif wleidyddion y wlad.

Mae'r dirprwy brif weinidog, Liu Yandong, yn cwrdd â Phrif Weinidog Cymru yng Nghaerdydd ddydd Gwener wrth ymweld â Chymru am ddeuddydd.

Fe ddywedodd Mr Jones: "Mae cryfhau dolenni â China, un o economïau mwyaf pwerus y byd, wedi bod yn nod hir-dymor gan lywodraeth Cymru ac mae ymweliad y dirprwy brif weinidog yn rhan o berthynas â llywodraeth China ers blynyddoedd."

Ddydd Iau roedd Mrs Liu yn cyfarfod â David Cameron ddywedodd fod hon yn "flwyddyn euraid" ar gyfer cysylltiadau rhwng China a'r DU.

Yn ystod ei hymweliad â Chymru bydd hi'n rhan o seremoni i nodi dechrau coleg ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Normal Beijing.