Syniad i Radio Cymru?

Mae meithrin perthynas gyda'r ysgolion ar wasanaeth C2 yn un o'r ffyrdd y mae Radio Cymru yn ceisio denu gwrandawyr ifanc
Image caption Mae meithrin perthynas gyda'r ysgolion ar wasanaeth C2 yn un o'r ffyrdd y mae Radio Cymru yn ceisio denu gwrandawyr ifanc

Sut mae denu rhagor o Gymry ifanc i wrando ar Radio Cymru? Mae hi'n drafodaeth sydd yn codi ei phen yn aml. Mae'r syniad o sefydlu dwy orsaf wedi cael ei godi nifer o weithiau dros y blynyddoedd diwethaf.

Dros y dŵr yn Iwerddon yn ddiweddar mae 'na syniad tebyg wedi cael ei gyflwyno gan y darlledwr cenedlaethol RTÉ i ddenu siaradwyr ifanc yr Wyddeleg. Mae RTÉ yn cynhyrchu ac yn darlledu ar deledu, radio ac ar-lein yn Saesneg a'r iaith Wyddeleg.

Rónán Mac Con Iomaire yw Pennaeth Grŵp Gwyddeleg RTÉ, ac mae'n rhannu ei weledigaeth gyda Cymru Fyw.


Cerddoriaeth y siartiau

Un feirniadaeth sy'n cael ei gwneud yn gyson am RTÉ Raidió na Gaeltachta, y gwasanaeth radio cenedlaethol Gwyddeleg, ydi nad ydi o'n darparu'n ddigonol ar gyfer siaradwyr Gwyddeleg ifanc (ac yn wir, pobl ifanc sy'n awyddus i ddysgu'r iaith).

Fel cyn Ddirprwy Bennaeth RTÉ RnaG, rydw i wedi clywed y rhan fwyaf o'r dadleuon ac wedi cael y pleser o gytuno ac anghytuno gyda nhw dros y blynyddoedd.

Pan rydyn ni'n trafod gwasanaeth radio i bobl ifanc, mae yna ddadleuon dilys dros ddweud bod hyn yn golygu mwy na dim ond cerddoriaeth y siartiau. Ond os ydych chi am edrych ar y ffeithiau moel, edrychwch ar y sector fasnachol.

Mae gan bobl ifanc arian i'w wario. Mae hysbysebwyr wrth eu boddau gyda hyn. Mae angen hysbysebion ar orsafoedd masnachol. Felly, maen nhw am gynnig gwasanaeth sydd yn fwy tebygol o ddenu gwrandawyr ifanc.

Yn anochel mae hyn yn golygu cerddoriaeth y siartiau neu wasanaeth tebyg. O ganlyniad, os ydych chi am ddenu pobl ifanc, defnyddiwch fiwsig y siartiau.

Image copyright RTE
Image caption Mae gan RTÉ gynlluniau i geisio denu rhagor o siaradwyr Gwyddeleg ifanc i wrando ar y radio yn yr iaith

Arbrofi

Fel arbrawf ddwy flynedd yn ôl fe luniodd RTÉ RnaG bartneriaeth gyda Raidió Rí-Rá, gorsaf radio ar-lein Wyddeleg i bobl ifanc. Roedd Rí-Rá yn darparu rhaglen gerddoriaeth siartiau awr o hyd i RnaG. Trwy hyn roedd Rí-Rá yn cael sylw gwerthfawr wrth i'w rhaglen gael ei chlywed gan gynulleidfa ehangach ar y donfedd FM.

Roedd y sioe yn llwyddiant (ac yn dal i fod), roedd 'na adborth cadarnhaol, ac roedd hi i weld yn taro deuddeg gyda phobl ifanc yn y Gaeltacht ('y Fro Wyddeleg' - yr ardaloedd lle mae'r Wyddeleg gryfaf) ac yn genedlaethol.

Yn ddiweddar cefais i fy mhenodi yn Bennaeth Grŵp Gwyddeleg RTÉ, ac mi 'naeth hi fy nharo i bod yna gyfle gwych i RTÉ a RnaG yn y fan hyn, gan fod gan RnaG rwydwaith ddarlledu genedlaethol.

Pan 'dych chi'n edrych yn fanwl ar ystadegau gwrando rhanbarthol (tra'n cadw mewn cof yr ymchwil fras i radio Gwyddeleg yn benodol), mae nifer y gwrandawyr yn eitha' cryf gyda'r nos yn ardaloedd y Gaeltacht, ond maen nhw bron â bod yn ddibwys yn yr ardaloedd eraill.

Mae'n bosib i ni gadw gwasanaeth RnaG fel ag y mae yn yr ardaloedd ble mae'r gwrandawyr craidd - yn bennaf ar hyd arfordir gorllewinol Iwerddon. Ond ydi hi'n werth ystyried rhannu'r signal mewn ardaloedd eraill, gan ddarparu gwasanaeth newydd Gwyddeleg sydd wedi ei anelu at wrandawyr ifanc?

Canlyniad cynllun o'r fath fyddai bod RnaG yn gallu targedu cynulleidfa newydd, ieuengach, tra'n cadw'r gwasanaeth presennol i'r gynulleidfa graidd.

Image caption Mae RTÉ wedi bod yn cynnal arbrawf ar y cyd gyda gorsaf radio ar-lein Wyddeleg Raidió Rí-Rá

'Cysylltu gyda'r Wyddeleg'

Mi fyddem yn gallu defnyddio grym rhwydwaith cenedlaethol FM RnaG i gael gwerth ychwanegol ohono. RnaG2, os hoffech chi, o 7pm tan hanner nos, yn cael ei gyflwyno yn y Wyddeleg gyda cherddoriaeth grêt.

Efallai byddai hi'n bosib defnyddio'r ddwy awr gyntaf fel cyfle i'r bobl ifanc gysylltu gyda'r iaith ac yna troi'r gerddoriaeth yn uwch wrth i ni nesáu at ganol nos.

Ar hyn o bryd, cynllun yn unig ydi o. Ond mae'n gynllun rydyn ni wedi ein hymrwymo iddo fo, ac mae'n gynllun rydyn ni'n bwriadu ei weithredu o fewn y bum mlynedd nesaf. Mae'n gynllun hyblyg, gan ystyried newidiadau posib yn y defnydd o wasanaethau radio a'r dechnoleg ddarlledu dros y bum mlynedd nesaf.

Ond beth rydyn ni'n ei wybod o'r adborth rydyn ni wedi ei gael fel rhan o'n cynllun gweithredu newydd o ran yr Wyddeleg ydi bod yna awydd am wasanaeth o'r fath.

Mae'n debyg y byddai'r ymateb wedi bod yn fwy negyddol petai cynllun tebyg i hwn wedi ei gyhoeddi 20 mlynedd yn ôl, ond mae Iwerddon yn newid a felly hefyd ei pherthynas gyda'r Wyddeleg.

Dydi'r sylw negyddol y byddai'r Wyddeleg yn ei ddenu ar un adeg ddim yn bodoli i'r fath raddau erbyn hyn. Mae'r diolch i hynny yn rhannol i ddatblygiad y Gaelscoileanna (ysgolion cyfrwng Gwyddeleg) a TG4 (sianel deledu Gwyddeleg).

Mae 'na hunan-hyder newydd hefyd wedi deillio o'r cytundeb heddwch dros y ffin yn y gogledd a datblygiad economaidd yn y Weriniaeth ei hun ac mae hyn wedi ein galluogi ni i ddatblygu fel cenedl.

Image caption Mae Rónán Mac Con Iomaire yn ffyddiog y gall y cynllun newydd sy'n cael ei gynnig apelio at wrandawyr ifanc sy'n siarad Gwyddeleg

Mae'n bryd i ni gymryd mantais o'r ewyllys da yma ac mae'n amser i ni newid ein hagwedd tuag at yr iaith. Mae'n bryd cydnabod yr Wyddeleg, nid fel rhywbeth i'n rhwymo ni i'r gorffennol, ond fel rhan allweddol o hunaniaeth Wyddelig, a'i thrin hi felly.