Cais i ddatblygu parc dŵr yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd

Mae Dŵr Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau i ddatblygu parc dŵr a hamdden ar safle parc gwledig a chronfa ddŵr Llys y Fran yn Sir Benfro.
Cafodd cynlluniau amlinellol ar gyfer canolfan weithgareddau dŵr, gyda gwelliannau i gyfleusterau pysgota a cherdded ar y safle, eu cyflwyno i'r cyngor sir.
Gobaith y cwmni yw troi'r safle'n un mwy deniadol i ymwelwyr a thwristiaid ac fe fyddai'r cynllun yn costio £4m os yw'r cais cynllunio'n cael ei ganiatáu.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor eu bod yn cydweithio er mwyn ceisio cael arian o Ewrop.
"Rydym yn croesawu'r buddsoddiad mawr yn y parc gwledig a'r gronfa ddŵr."
'O'r radd ucha'
Dywedodd Sian Robinson o Dŵr Cymru: "Ein gobaith yw gwneud hon yn gyrchfan o'r radd ucha i dwristiaid fydd yn gallu mwynhau chwaraeon dŵr, yr ardal chwarae, pysgota, beicio, cerdded, dysgu am fywyd gwyllt a'r gronfa ddŵr neu eistedd a mwynhau'r amgylchfyd ..."
Ychwanegodd: "Mae'r cynlluniau'n gyfle i gronfa ddŵr Llys y Frân ddod yn gyrchfan gyffrous a bywiog i ymwelwyr fydd o fudd i atyniadau eraill yn sir Benfro."
Mae'r parc gwledig a chronfa ddŵr ger Hwlffordd ac yn safle 350 o erwau o faint, gan gynnwys cronfa ddŵr 212 o erwau.