Dal i ymchwilio i farwolaeth Nadia Jones yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu yn parhau i ymchwilio ar ôl i gorff dynes 38 oed gael ei ddarganfod yng Nghaerdydd ddydd Gwener.
Cafodd pum dyn eu harestio ar ôl i'r heddlu ddod o hyd i gorff Nadia Jones yn ei fflat yn Nhremorfa.
Mae tri dyn, 27, 30 a 36 oed, yn parhau i fod yn y ddalfa. Cafodd dau ddyn arall, 32 a 36 oed, eu rhyddhau ac ni fydd gweithredu pellach yn eu herbyn.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu gyda'r heddlu ar 101 neu yn ddi-enw ar 0800 555111 gan roi rhif 1500334982.
Straeon perthnasol
- 11 Medi 2015