Pro12: Leinster 23-15 Gleision Caerdydd

Leinster Image copyright Inpho

Fe ennillodd Leinster eu buddugoliaeth gyntaf yn y Pro12 ond roedd yn rhaid i'r Gwyddelod ymladd yn galed yn erbyn Gleision Caerdydd ddydd Sadwrn.

Roedd y Gleision ar y blaen 6-0 wedi dwy gic gosb gan Rhys Patchell ond fe aeth Leinster ar y blaen o 10-6 wedi cais gan Jack Conan.

Daeth cic gosb arall i Patchell a'r sgôr i 10-9, ac fe aeth Caerdydd ar y blaen 15-13 cyn yr hanner. Ond fe frwydrodd Leinster yn ôl ac roedd cic gosb hwyr i'r Gwyddelod yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth.