Seremoni goffau y Gwarchodlu Cymreig

Cofeb Image copyright Cpl Daniel Wiepen
Image caption Cafodd Cofeb Gwersyll Bastion ei chludo i Brydain ym mis Hydref 2014

Bydd milwyr Cymreig yn nodi diwedd eu hymgyrch filwrol yn Afghanistan mewn seremoni ddydd Sadwrn.

Bydd teuluoedd milwyr fu farw wrth wasanaethu gyda'r Gwarchodlu Cymreig yn mynychu gwasanaeth coffa ger Mur Bastion yng Nghofeb yr Arboretum Cenedlaethol yn Swydd Stafford.

Fe fydd y teuluoedd y nodi'r digwyddiad ger cofeb y Gwarchodlu Cymreig hefyd.

Dywedodd yr Is-Gapten Gyrnol Chris Kilmister, ysgrifennydd catrawd y Gwarchodlu Cymreig: "Mae'n weddus iawn ein bod wedi dod ynghyd fel teulu'r gatrawd i dalu teyrnged i'r holl filwyr fu farw o ganlyniad i'r ymladd yn Afghanistan."

Mae cofeb Mur Bastion yn ail-greu'r gofeb wreiddiol oedd yng Ngwersyll Bastion ar safle'r fyddin yn nhalaith Helmand yn Afghanistan, ac mae'n cynnwys enwau'r 454 o filwyr fu farw yn ystod yr ymgyrch filwrol yn y wlad.