Awyrlu'n lladd Jihadydd o Gaerdydd

ISIL
Image caption Fe wnaeth Reyaad Khan ymddangos mewn fideo gan eithafwyr Islamaidd ISIL

Mae David Cameron wedi cyhoeddi fod dyn o Gaerdydd aeth i Syria i ymladd gydag eithafwyr Islamaidd ISIL wedi cael ei ladd mewn ymosodiad gan awyren ddi-beilot yr Awyrlu Brenhinol ym mis Awst eleni.

Mewn datganiad yn San Steffan ddydd Llun fe ddywedodd y Prif Weinidog fod Reyaad Khan, 21 oed, wedi ei ladd ar 21 Awst wrth deithio mewn cerbyd yn ardal Raqqah o Syria. Dywedodd David Cameron ei fod wedi ei ladd mewn gweithred o hunan-amddiffyniad ar ran Prydain.

Er bod aelodau seneddol wedi pleidleisio yn erbyn unrhyw ymgyrchu milwrol yn Syria, dywedodd y Prif Weinidog fod yr ymosodiad yn yr achos hwn yn un "cwbl gyfreithlon", a'i fod wedi derbyn sel bendith y Twrnai Cyffredinol.

Bu farw dau ddyn arall yn yr ymosodiad, yn cynnwys gŵr o Brydain, Abdul Raqib Amin, a oedd wedi teithio i'r wlad i ymladd gydag eithafwyr Islamaidd.

Cyrch milwrol

Wythnos yn ôl fe gyhoeddodd swyddogion mewn mosg yng Nghaerdydd bod Reyaad Khan wedi cael ei ladd, ond fe ddaeth cadarnhad gan David Cameron ddydd Llun mai cyrch milwrol Prydeinig oedd yn gyfrifol am ei farwolaeth.

Cafodd marwolaeth Reyaad Khan ei chyhoeddi ym mosg Jalalia yng Nghaerdydd wedi i'r Imam dderbyn galwad ffôn gan dad Reyaad Khan, yn ôl ysgrifennydd y mosg Mokaddus Miah.

Dywedodd aelod arall yn y mosg wrth BBC Cymru bod y teulu wedi cael gwybod fod y dyn 21 oed wedi ei ladd mewn cyrch gan awyren 'drone' y cynghreiriaid tua diwedd mis Awst.

Credir fod Reyaad Khan wedi teithio i Syria ar ddiwedd 2013. Ymddangosodd mewn fideo propaganda gan IS wrth ochr ei gyfaill Nasser Muthana sydd hefyd o Gaerdydd.

Ar y pryd dywedodd ei deulu yng Nghaerdydd eu bod wedi eu synnu, gan fynnu ei fod wedi ei gyflyru i ymuno â'r grŵp.

Cafodd Reyaad Khan, a gafodd ei eni ym Mhenarth, ei addysg yn Ysgol Uwchradd Cantonian a Choleg Dewi Sant yng Nghaerdydd.