Casnewydd 0 - 3 Caer Efrog

casnewydd

Mae Casnewydd, sy'n eistedd ar waelod yr ail gynghrair wedi colli eu pumed gêm allan o chwech, a hynny yn erbyn Caer Efrog, sy'n ennill eu buddugoliaeth gyntaf oddi cartre' y tymor hwn.

Llwyddodd James Berrett i roi'r ymwelwyr ar y blaen ychydig funudau cyn diwedd yr hanner cynta'.

Fe ddaeth dwy gôl arall i Gaer Efrog yn ystod yr ail hanner, wrth i Reece Thompson a Vadaine Oliver sgorio i sicrhau'r tri phwynt.

Fe aeth Casnewydd i lawr i 10 dyn ar ôl i Danny Holmes dderbyn dau gerdyn melyn o fewn wyth munud.