Taro a Ffoi: Arestio dyn
- Cyhoeddwyd

Llun camera cylch cyfyng o'r beiciwr modur
Mae'r heddlu wedi arestio dyn 29 oed yn dilyn gwrthdrawiad yn Aberpennar. Cafodd bachgen 10 anafiadau difrifol ar ôl cael ei daro gan feic modur.
Mae'r dyn yn cael ei holi yn y ddalfa ynglŷn â gyrru yn beryglus, ac am fethu ag aros yn dilyn gwrthdrawiad.
Fe ddywedodd llefarydd yr heddlu eu bod yn "falch o ymateb y cyhoedd yn dilyn ein cais am wybodaeth yn dilyn y digwyddiad."
Bu'r plismyn yn chwilio am yrrwr y beic modur yn dilyn y digwyddiad ddydd Iau.
Mae'r bachgen 10 oed yn parhau i fod mewn cyflwr difrifol iawn yn yr ysbyty.