Marw ar ôl cael ei daro gan fellten
- Cyhoeddwyd

Mae cwest yn Aberhonddu wedi clywed fod dyn gafodd ei ladd gan fellten ar Fannau Brycheiniog yn ceisio addasu ei bolyn cerdded ar y pryd.
Roedd Robin Meakings, athro 59 oed o Surrey, yn un o ddau gafodd eu lladd ar y Bannau ar yr un diwrnod, ddechrau Gorffennaf.
Clywodd y cwest fod Mr Meakings yn paratoi i ddod lawr o gopa mynydd Cribyn pan gafodd ei daro ar ei ben gan fellten.
Dywedodd cyfaill i Mr Meakings, oedd hefyd yn defnyddio polyn cerdded, iddo ef gael ei daflu 20 troedfedd i'r awyr a bod ei gorff yn teimlo "ar dan, o'r tu allan a'r tu mewn."
Penderfynodd y crwner fod Mr Meakings wedi marw o ganlyniad i gael ei daro gan fellten.
Disgrifiodd yr amgylchiadau fel rhai "anarferol ac unigryw".
Mae'r cwest i farwolaeth ail gerddwr, Jeremy Prescott, newydd ddechrau.
Cafodd Mr Prescott ei daro ar gopa gwahanol, dau gilomedr o'r Cribyn.
.