Gwasanaethau brys yn chwilio Afon Taf

Mae'r gwasanaethau brys wedi bod yn chwilio Afon Taf ger y castell yng Nghaerdydd.

Cafodd yr heddlu alwad am 14:00 wedi adroddiadau bod corff yn yr afon.

Am 16:01 dywedodd Jennie Griffiths o'r Gwasanaeth Tân ar ei chyfri Twitter: "Mae criwiau wedi chwilio'r afon rhwng Pont Stryd y Castell a Phont Heol Penarth.

"Does dim sôn am gorff a dyw'r criwiau ddim yn chwilio erbyn hyn."