Rhybudd Cooper am ddyfodol Llafur
- Cyhoeddwyd

Mae un o ymgeiswyr Llafur ar gyfer arweinyddiaeth y blaid wedi rhybuddio y gallai Llafur "droi eu cefnau " ar y cyfle i ffurfio llywodraeth. Yn ol Yvette Cooper mae "pobl Cymru yn dibynnu ar gael llywodraeth Lafur."
Roedd Yvette Cooper yn ymateb i gwestiwn ar BBC Radio Wales ynglŷn ag ymgyrch yr ymgeisydd aden chwith Jeremy Corbyn.
Yn ôl Mrs Cooper mae'r bleidlais yn gyfle enfawr i'r blaid - ond mae peryglon hefyd, meddai, os yw Llafur yn dewis syniadau sydd "ddim yn gredadwy".
Mewn cyfweliad â Vaughan Roderick ar raglen Sundey Supplement BBC Radio Wales, fe ddywedodd Ms Cooper ei bod yn awyddus i weld Cymru yn cael llais cryfach o fewn y blaid Lafur.
Yn ôl Ms Cooper roedd o blaid rhagor o ddatganoli i Gymru, yn ogystal â Chonfensiwn Cyfansoddiadol i drafod strwythur gwleidyddol y Deyrnas Unedig yn y dyfodol.
Mae pedwar ymgeisydd yn cystadlu ar gyfer arweinyddiaeth y blaid Lafur- Yvette Cooper, Jeremy Corbyn, Andy Burnham a Liz Kendall.
Mae disgwyl i ganlyniad yr etholiad gael ei gyhoeddi ar Fedi'r 12fed.