Ymgyrch i achub coeden 500 mlwydd oed ym Mhowys

The Brimmon tree Image copyright Trreehunter.co.uk
Image caption Mae teulu Mervyn Jones wewdi bod yn gyfrifol am y goeden ers cannoedd o flynyddoedd

Mae ymgyrchwyr ym Mhowys eisiau newid llwybr ffordd £56m i achub coeden 500 mlwydd oed.

Mae ffordd osgoi'r Drenewydd yn ddibynnol ar ymchwiliad cyhoeddus.

Mervyn Jones sy'n berchen ar y tir, ac mae'n credu os nad yw'r ffordd yn cael ei adeiladu 15 metr i ffwrdd, bydd y gwreiddiau yn cael eu difrodi a bydd y goeden yn marw.

Dywedodd llefarydd o Lywodraeth Cymru eu bod yn "ymwybodol o'r problemau" ac yn disgwyl am ganlyniad yr ymchwiliad cyhoeddus.

"Dy'n ni ddim yn ceisio rhwystro'r ffordd osgoi - dim ond eisiau achub y geoden ydyn ni," meddai Mr Jones wrth BBC Radio Wales.

Mae grwp ymgyrchu ar wefan Facebook i achub y goeden wedi denu cefnogaeth 3,000 o bobl.

Dywedodd llefarydd o Llywodraeth Cymru: "Dy'n ni'n ymwybodol o'r problemau gyda'r goeden. Ry'n ni'n disgwyl am ganlyniadau ymchwiliad cyhoeddus, a byddwn ni'n amlwg yn rhoi mwy o ystyriaeth i'r pryderon sydd wedi'u codi."

Image copyright Google
Image caption Mae traffig wedi bod yn broblem fawr yn y Drenewydd