Beiciwr modur wedi'i anafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiad

Cross Foxes pub Image copyright Geograph/John Haynes
Image caption Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A539 ger tafarn y Cross Foxes yn Owrtyn

Mae beiciwr modur wedi'i anafu'n ddifrifol yn dilyn gwrthdrawiad gyda char yn Wrecsam.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A539 ger tafarn y Cross Foxes yn Owrtyn am 07:40 fore Gwener.

Dywedodd yr heddlu bod car Fiat glas wedi taro'r beic modur.

Mae'r ffordd ar gau i'r ddau gyfeiriad ac mae'r heddlu yn annog gyrwyr i osgoi'r ardal wrth iddyn nhw gynnal ymchwiliad.