Oes dyfodol i bapurau newydd?

ifan morgan jones

Gostwng eto wnaeth y nifer o bobl sy'n prynu papurau newydd yng Nghymru, yn ôl ffigyrau gafodd eu rhyddhau ddoe.

Er bod mwy yn troi at wefannau, be' mae hyn yn ei olygu i newyddiaduraeth, ac ydi'r patrwm yn un iach i'r diwydiant a'r ffordd mae pobl yn derbyn newyddion? Ifan Morgan Jones, darlithydd mewn newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Bangor a chyn-olygydd, sy'n trafod:

Mwy o bobl yn darllen newyddion

Mae'r cwymp yng ngwerthiant papurau newydd yng Nghymru yn ddrych i ddirywiad sydd i'w weld ledled y Deyrnas Unedig ers sawl degawd, ac yn arbennig felly ers y 90au a dyfodiad y rhyngrwyd.

Mae'r darllenwyr sydd yn well ganddynt brynu eu newyddion a'i ddarllen ar ffurf brintiedig yn prysur heneiddio.

Roedd y cwymp yng nghylchrediad y Western Mail yn hanner cyntaf 2015, i 18,641, ymysg y mwyaf serth ymysg papurau newydd y DU, gyda 14.9% yn llai yn prynu'r papur nag oedd yr adeg yma'r llynedd.

Serch hynny, roedd y Western Mail ymysg deg uchaf papurau rhanbarthol y DU o ran denu ymwelwyr i'w wefan (Wales Online), gyda 261,553 o ymwelwyr unigryw bob diwrnod, cynnydd o 61.6% ar y llynedd.

Syrthiodd cylchrediad y Daily Post i 24,713, cwymp o 6.2% ar y llynedd, ond llwyddodd i ddenu 70,571 o ymwelwyr unigryw bob diwrnod i'w safle we.

Mae'n bosib felly bod mwy o bobl nag ers degawdau yn darllen cynnyrch y papurau hyn, er bod nifer bellach yn gwneud hynny ar-lein.

'Straeon peiriant sosej'

Ond er bod newyddion hygyrch am ddim ar ein ffonau symudol yn ddatblygiad cadarnhaol mewn sawl ffordd, mae yna le i bryderu am effaith y cwymp mewn darllenwyr print a'r cynnydd mewn darllenwyr ar-lein ar safon y newyddion yn gyffredinol a hefyd ar hyfywedd newyddion Cymreig.

Nid yw'r cyfryngau eto wedi dyfeisio model busnes newydd i gymryd lle'r un sy'n prysur chwalu yn sgil y dirywiad yn nifer darllenwyr papurau print. Nes eu bod nhw'n gwneud hynny, ni fydd modd cyflogi cymaint o newyddiadurwyr.

Sgil effaith hynny yw rhagor o straeon o safon isel, yr hyn a oeddwn i'n ei alw yn ystod fy nghyfnod fel golygydd yn 'straeon peiriant sosej' - hynny ydi'r rhai sy'n cael eu cynhyrchu yn gyflym am nad oes yr amser na'r adnoddau i ymchwilio mewn dyfnder i straeon o safon.

Yn hytrach na cheisio denu sylw darllenwyr gyda straeon ymchwiliadol, y tueddiad yw cyhoeddi straeon â phenawdau sy'n addo gormod, neu restrau hawdd eu hysgrifennu megis '10 Rheswm Pam Mai Tom Jones oedd y Beirniad Gorau ar The Voice'.

Anodd denu hysbysebwyr

Mae'r rhyngrwyd hefyd yn gofyn i'r newyddiadurwr fod yn fwy hyblyg wrth fynd i'r afael â sawl cyfrwng yr un pryd. Gallai'r newyddiadurwr papur newydd ugain mlynedd yn ôl ddibynnu ar ei bad ysgrifennu a'i feiro yn unig, ond rhaid i'r newyddiadurwr print cyfoes yn aml recordio deunydd sain a fideo yn ogystal â'u golygu ar gyfer gwefan y papur.

Canlyniad hynny yw bod straeon ymchwiliadol yn cymryd llawer o amser i'w gwneud, a bod rhaid cynhyrchu rhagor o straeon o safon isel er mwyn llenwi'r bwlch.

Dylai'r cwymp yng nghylchrediad y papurau newydd hefyd beri pryder i'r rheini sy'n cefnogi cyfryngau Cymreig hyfyw. Efallai nad papur cenedlaethol na chenedlaetholgar mo'r Western Mail na'r Daily Post, ond maent yn adrodd ar newyddion Cymreig megis digwyddiadau'r Senedd ym Mae Caerdydd.

Oherwydd tlodi cymharol Cymru nid yw'n farchnad sy'n denu hysbysebwyr, ac felly nid oes llawer o ddiben i ffynonellau newyddion Prydeinig adrodd ar yr hyn sy'n digwydd yma.

Wrth i gylchrediad y Western Mail a'r Daily Post syrthio ymhellach, mae'n debygol y bydd cynnwys sy'n ymdrin yn benodol â Chymru yn cael ei ddisodli fwyfwy gan gynnwys cyffredinol a masnachol sydd ar gael i sawl ffynhonnell.

Image caption Mae 'na fwy o dueddiad nawr i gyhoeddi rhestrau "hawdd eu hysgrifennu megis '10 Rheswm Pam Mai Tom Jones oedd y Beirniad Gorau ar The Voice'."

A oes dyfodol i'r papurau Cymreig?

Er bod y gynulleidfa Cymraeg ei hiaith yn meddu ar sawl ffynhonnell newyddion cenedlaethol, megis Golwg 360, Barn, y Cymro, ayyb, pe bai'r Western Mail a'r Daily Post yn trengi byddai yn rhaid i'r BBC gario bron a bod yr holl faich drwy gyfrwng y Saesneg, ac mae'n bosib y byddai asiantaethau newyddion megis y Press Association yn penderfynu buddsoddi llai o'u hadnoddau ar adrodd o Gymru gan effeithio ar arlwy'r gwasanaethau Cymraeg yn ogystal.

Mae'n debygol y bydd y papurau Llundeinig mwyaf yn parhau yn hyfyw am ddegawdau eto, yn arbennig felly am eu bod yn tueddu i ddylanwadu ar ba straeon sy'n cael sylw'r darlledwyr. Efallai y bydd tuedd cynyddol iddynt gael eu prynu gan gwmnïau mawrion a fydd yn eu gweld fel modd o ddylanwadu ar farn y cyhoedd yn hytrach nag gwneud elw.

Mae'r dyfodol i bapurau rhanbarthol megis y Western Mail a'r Daily Post yn llawer mwy ansicr ac fe ellir yn y pen draw eu gweld yn troi yn bapurau wythnosol, yn cyfuno â phapurau eraill neu yn symud yn gyfan gwbl ar-lein, y hynny y tu ôl i fur talu os yw'r cylchrediad yn parhau i syrthio ar raddfa debyg dros y degawdau nesaf.

Image caption Mae llawer o bobl bellach yn darllen newyddion ac yn dilyn chwaraeon ar dabledi a ffonau symudol.

Straeon perthnasol