Achub dau lanc aeth i drafferthion yn afon Tawe
- Cyhoeddwyd
Mae dau lanc wedi cael eu hachub o afon Tawe yn Abertawe ar ôl iddyn nhw fynd i drafferthion fore Sul.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am tua 07:00 fore Sul, ar ôl i'r bechgyn fynd i'r dŵr.
Cafodd Heddlu De Cymru eu galw gan aelod o'r cyhoedd.
Ni chafodd y bechgyn eu hanafu.