Angen coetir 'mor fawr a Chaerdydd'

Fforest Image copyright Thinkstock

Mae angen planu coetir mor fawr ag arwynebedd Caerdydd er mwyn dadwneud y colledion i fforestydd Cymru o achos torri coed yn fasnachol dros y 15 mlynedd diwethaf, yn ôl rhybudd gan y diwydiant.

Dywed Confor, y corff sy'n hybu buddiannau'r diwydiant, bod gweinidogion yn rhoi gormod o bwyslais ar yr amgylchedd ar draul coed sydd yn cael eu tyfu ar gyfer gwerthu pren.

Mae Martin Bishop o Confor, sy'n cynrychioli 200 o fusnesau yng Nghymru, yn credu fod y pwyslais ar agweddau amgylcheddol yn cael eu gweld yn rhai mwy deniadol na'r diwydiant fforestydd masnachol.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw'n ceisio cael cydbwysedd rhwng agweddau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol wrth edrych ar sut y mae fforest yn cael ei datblygu

'Biwrocrataidd'

Mae Mr Bishop yn credu bod y system yn un rhy fiwrocrataidd ar gyfer creu coedlannau newydd.

Dywedodd: "Rydym wedi bod yn ail-drefnu'r fforest - mae'n rhaid i ni roi cyfran o goed cynefinol a gadael ardaloedd agored, mae'n bolisi gwahanol. Mae hyn wedi arwain at ostyngiad yn y capasiti.

"Mae na farchnad enfawr ar gyfer ein coed. Does 'na ddim problem hefo'r farchnad. Mae pob melinydd coed yn dweud wrtha fi y byddai'n dyblu neu treblu cynhyrchiant petai'r coed yno i fwydo'r felin."

Dywedodd fod 90 hectar o goed wedi eu plannu'r llynedd, ond bod angen 20,000 hectar y flwyddyn i gyrraedd targedau tymor hir sydd wedi eu gosod gan weinidogion.

Yn ôl gweinidogion maen nhw'n ceisio hybu cyrff torri coed yn fasnachol i fuddsoddi mewn creu coedlannau.

Mae coedwigoedd conwydd neu goniffer yn olygfeydd cyffredin ar hyd Cymru ac fe gafodd llawer o'r coedwigoedd hyn eu plannu hanner canrif yn ôl, yn bennaf ar gyfer eu pren.

Ond dywed Confor fod 40,000 o aceri o goedwigoedd masnachol wedi eu colli ers 2001 ac mae angen eu hail-blannu er mwyn diwallu anghenion.

Mae hanner coedwigoedd Cymru'n cael eu rheoli gan Gyfoeth Naturiol Cymru - gyda'r hanner arall gan gwmniau preifat.

£450m y flwyddyn

Mae'r diwydiant yn un sydd werth dros £450m yn flynyddol i economi Cymru yn ôl amcangyfrif. Ond mae na wrthdaro gyda pholisi amgylcheddol.

Wrth i'r amgylchedd a'r galw am fynd i'r afael â newid hinsawdd ddod yn fwy o flaenoriaeth, mae un gweinidog ar ôl y llall wedi dweud eu bod am weld cynnydd mewn rhywogaethau brodorol o goed yn cael eu tyfu, gyda gwell mynediad i gerddwyr a beicwyr.

Mae ymgyrchwyr amgylcheddol yn dweud fod fforestydd masnachol yn ddrwg i'r amgylchedd.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw'n ceisio cael cydbwysedd rhwng agweddau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol wrth edrych ar sut y mae coedwig yn cael ei datblygu.

Dywed y llywodraeth bod strategaeth Coedwigoedd i Gymru yn "gosod y nod o sut yr hoffem weld Cymru'n cael ei hadnabod am ei choedwigoedd o safon uchel sydd yn codi gwerth y tirlun, yn cynnig buddion gwirioneddol yn gymdeithasol a chymunedol, yn cefnogi diwydiannau coedwigoedd ac o fudd i safon gwell o amgylchedd".