Cordina yn cipio medal aur

Joe Cordina Image copyright Getty Images
Image caption Joe Cordina

Mae'r Cymro Joe Cordina wedi ennill medal aur yng nghystadleuaeth pwysau ysgafn ym Mhencampwriaeth Bocsio Ewrop yn Bwlgaria.

Fe wnaeth y bocsiwr 23 oed o Gasnewydd, wnaeth ennill medal efydd yn Gemau'r Gymanwlad y llynedd, guro Otar Eranosyan o Georgia ar bwyntiau.

Bu'n rhaid i Cordina wrthsefyll tactegau Eranyosan oedd am ymladd yn agos.

Fe lwyddodd i wneud hynny a hefyd taro'n ôl a sicrhau penderfyniad unfrydol i gipio'r aur.

"Rwy'n meddwl fy mod yn haeddu'r fuddugoliaeth. Fe fethodd o a glanio unrhyw ergydion da arnaf.

"Rwyf wedi bod yn gweithio'n galed iawn dros gyfnod o dri mis ac am hynny mae'r diolch am y fedal aur."

Mae perfformiad Cordina yn golygu ei fod wedi sicrhau u lle ym Mhencampwriaethau'r Byd yn Qatar ym mis Hydref - lle bydd o'n ymgeisio am le yn nhîm Prydain ar gyfer y gemau Olympaidd yn Rio.